Newyddion S4C

Gweithwyr yn defnyddio 'poteli a bwcedi' oherwydd prinder tai bach

19/11/2024
Ty bach

Mae undebau yn galw am well cyfleusterau tai bach ar gyfer eu gweithwyr, ar ôl i waith ymchwil awgrymu fod rhai yn defnyddio bagiau, poteli a bwcedi oherwydd prinder toiledau. 

Mewn arolwg o blith 4,000 o weithwyr gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC), dywedodd tri o bob pump nad ydyn nhw wastad yn cael cyfle i ddefnyddio'r tŷ bach. 

Nododd nifer nad oedd digon o gyfleusterau wrth law ac nad oedd digon o gyfnodau gorffwys yn ystod y shifft.   

Ymhlith y rhai gafodd eu holi, roedd gyrwyr trenau, bysus a faniau ac athrawon.   

Dywedodd nifer fawr o weithwyr post, criwiau tân ac adeiladwyr nad oes ganddyn nhw gyfleusterau tai bach sy'n gyfleus.  

Yn ôl chwarter y rhai a oedd anfodlon â'r diffyg cyfleusterau, roedd y toiledau yn fudur neu angen eu trwsio.  

Potel a thwndish

Dywedodd un gweithiwr post: “Rydw i'n gorfod cadw potel, twndish, cadachau gwlyb a hylif diheintio yng nghefn y fan, rhag ofn na fydd modd i fy mhledren ddal, hyd nes y caf afael ar y dafarn neu'r tŷ bach cyhoeddus agosaf.”

Dywedodd aelod benywaidd o'r gwasanaeth tân: “Ystod shifft hwyr, dydw i ddim yn yfed fel y dylwn i, gan fod cyn lleied o gyfleusterau pan gawn alwad i ddigwyddiad. Mae hyn yn groes i'r polisi o yfed digonedd o ddŵr, ond dydw i ddim eisiau gwlychu fy hun o flaen fy nghyd weithwyr gwrywaidd.”

Mae'r TUC yn galw ar gyflogwyr i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael, drwy sicrhau fod y cyfnodau gorffwys yn hirach fel bod modd i weithwyr fynd i'r tŷ bach.   

Maen nhw hefyd yn galw am well partneriaeth gyda chynghorau lleol a busnesau fel bod safon y tai bach yn gwella.

Dywedodd Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol undeb y gyrwyr trenau, Aslef: “Mae'n annerbyniol nad oes gan yrwyr trenau opsiynau yn aml. Mae rhai gyrwyr yn dewis peidio yfed te neu goffi neu ddŵr er mwyn osgoi mynd i'r tŷ bach. Mae hynny'n medru effeithio ar allu rhywun i ganolbwyntio ac arwain at broblemau iechyd hirdymor.” 

A gyda'r pwyslais ar ddenu mwy o yrwyr trenau benywaidd, mae Mr Whelan yn dweud bod angen gweithredu cyn gynted â bo modd. 

“Mae rhai gyrwyr yn gorfod newid tywelion mislif mewn cloddiau yn ymyl y cledrau  - ma hynny yn warthus yn yr unfed ganrif ar hugain,” ychwanegodd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.