Newyddion S4C

Powys: Cyhuddo dau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus

18/11/2024
A483 Belan, Y Trallwng

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char lle y bu person farw ym Mhowys ddydd Sadwrn.

Fe gafodd blentyn anafiadau difrifol hefyd yn ystod y gwrthdrawiad ar yr A483 yn y Belan, ger Y Trallwng.

Mae Abubakr Ben Yusaf, 29 oed, wedi ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus. 

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth pan nad oedd ganddo yswiriant, achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus, gwrthod rhoi sampl i'r heddlu ac o beidio stopio wedi'r gwrthdrawiad.

Hefyd mae Umar Ben Yusaf, sy'n 33 oed, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus, achosi anaf difrifol trwy yrru yn beryglus, achosi marwolaeth ag yntau heb yswiriant, a pheidio stopio ar ôl gwrthdrawiad ffordd. 

Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn y llys yn ddiweddarach. 

Parhau i apelio am wybodaeth mae'r heddlu. 

Maen nhw yn gofyn i unrhyw un a allai helpu eu hymchwiliad i gysylltu trwy roi'r cyfeirnod DP-20241216-254.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.