Plaid Cymru yn galw am yr un pwerau datganoledig i Gymru a'r Alban
Mae Plaid Cymru yn galw ar i Gymru dderbyn yr un pwerau i reoli â Llywodraeth ddatganoledig yr Alban.
Mae gan y Llywodraeth yn Holyrood yr hawl i godi trethi yn ogystal â bod â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona ac ynni a lles-cyfrifoldebau sydd ddim ar gael i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth a’r arweinydd yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mae angen Bil Cymru newydd, a fyddai’n datganoli rhagor o bwerau "yn seiliedig ar gynsail cydraddoldeb pwerau gyda'r Alban".
Fe fydd aelodau’r blaid yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, i drafod y cynnig.
Byddent hefyd yn galw am ddiddymu’r fformiwla Barnett, sydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu’r lefel ariannu y mae’r Llywodraeth yn ei dderbyn.
'Haeddu cyfran deg'
Yn ôl Llywodraeth San Steffan maent "yn barod wedi gwireddu newidiadau sylweddol i Gymru".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae Cymru'n haeddu ei chyfran deg. Mae ein galwad am gydraddoldeb gyda'r Alban yn ymwneud â sicrhau'r pwerau sydd wirioneddol eu hangen i wella bywydau'r bobl sy'n byw yma. Mae'n hen bryd i ni gael cae chwarae gwastad o fewn y Deyrnas Unedig."
Mae Mr ap Iorwerth wedi disgrifio'r gyllideb fel un "niweidiol" ac mae'n dweud ei bod hi'n "bygwth swyddi, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y fferm deuluol, ac elusennau". Dywedodd y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ddangos bod buddiannau Cymru yn ganolog i'w gwaith.
"Mae'r Alban wedi dangos sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn i wasanaethu'r bobl yn well.
“Mae system fudd-daliadau datganoledig wedi gwarchod pobl yn yr Alban rhag rhai o gyfnodau o lymder mwyaf creulon San Steffan, tra bod Ystâd y Goron Ddatganoledig yr Alban yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn cymunedau arfordirol difreintiedig.
“Os gall yr Alban wneud hynny, pam ddim Cymru?"
Dadleuol
Mae’r cynnig i ddatganoli Ystâd y Goron yn ddadleuol, yn ôl y Ceidwadwr sydd yn Aelod o'r Senedd ym mae Caerdydd, Samuel Kurtz.
Dywedodd wrth Newyddion S4C yn ddiweddar: “Pan dwi’n siarad â chwmnïau sydd am ddod mewn i Gymru – i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd – dydyn nhw ddim yn sôn am ddatganoli Ystâd y Goron.
"Maen nhw’n sôn am gynllunio a shwt allwn ni gyflawni cynllunio yng Nghymru – dod â mwy o bobl gyda sgiliau ychwanegol sydd ei angen yn y diwydiant newydd.
"Dydyn nhw ddim yn siarad am ddatganoli Ystâd y Goron."
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi "ail-sefydlu ein perthynas gyda Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio yn agos i wireddu blaenoriaethau pobl Cymru fel gwella'r gwasanaeth iechyd, dod a buddsoddiad a swyddi a thyfu'r economi."
Maen nhw'n dweud bod yr arian a glustnodwyd yn y gyllideb ddiweddar yn fwy nag unrhyw swm arall ers sefydlu datganoli i Gymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru dydyn nhw ddim am wneud sylw am nad ydyn nhw wedi gweld y bil.