Ymgeisydd Reform UK 'wedi wynebu bygythiadau i’w fywyd' yn ystod isetholiad Caerffili

Llyr Powell

Mae ymgeisydd Reform UK wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod wedi dioddef ymosodiadau a bygythiadau i’w fywyd yn ystod ymgyrch isetholiad Caerffili.

Er bod yr isetholaid dair wythnos yn ôl erbyn hyn mae’r bygythiadau’n parhau, meddai Llŷr Powell.

Mae’n galw am fwy o ddiogelwch i’r rhai sy’n sefyll mewn etholiadau. 

Yn ôl Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol mae angen “gwneud mwy i fynd i’r afael â’r broblem hon” cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, ar sail “traws-bleidiol a thraws-lywodraethol”, ac i gyflwyno “ffyrdd haws i gyfeirio problemau at yr heddlu.”

Yn ystod ymgyrch Caerffili, dywedodd Mr Powell iddo dderbyn 55 o fygythiadau i’w fywyd. 

Ychydig ddyddiau cyn y canlyniad, symudodd y blaid ef o’i gartref i fyw mewn lleoliad cyfrinachol yn dilyn ymosodiad ar ei gartref. 

“O ni lan lofft yn fy nhŷ ac yn clywed y drws yn cael ei gicio i lawr oddi tano, a’r gloch yn canu, ac wrth glywed mwy o leisiau roeddwn 'n panicio’n fwy,” meddai Llŷr Powell. 

“Edrychais allan drwy’r ffenestr a meddwl, a meddwl allai hwn fod yr eiliad maen nhw wir yn fy lladd i, ac mae’n deimlad rhyfedd iawn.”

'Caled'

Erbyn hyn mae’n parhau i dderbyn diogelwch gan swyddogion ar brydiau, sy’n cael ei ariannu gan Reform UK.

“Mae’n anodd i adael y tŷ ar y funud,” meddai.

“O ni’n gobeithio unweth i’r dwst setlo ma pethau yn mynd nol fel oedd e cyn yr etholiad. Ond dyw hynna heb ddigwydd eto. 

“Mae fe’n sioc i’r system. Mae rhaid i fi feddwl lle fi’n mynd i ginio os ma’r teulu yn gallu dod gyda, os ma ffrindiau fi’n gallu dod gyda fi. 

“Fi ddim moyn i unrhyw berson fynd drwyddo be fi’n mynd drywddo, felly mae’n galed."

'Shambles'

Dywedodd Mr Powell hefyd fod drysau ei swyddfa wedi’u gludo ar un achlysur, gyda’r heddlu’n dweud nad oedd “dim byd y gallent ei wneud” gan fod y troseddwyr ar CCTV yn gwisgo hwdis

“Roeddwn yn gallu teimlo rhywun yn dod, yng nghornel fy llygad, fel golau bach, ac roeddwn i’n meddwl mai golau ffôn oedd e felly dechreuais banicio am beth oedd yn mynd i ddigwydd, ac yna dyna pryd cefais fy ngwthio lan ar y shutters, gwaeddodd rhywun rywbeth yn fy wyneb ac yna poeri ataf," meddai.

Yn dilyn y digwyddiadau hyn, cysylltodd Mr Powell â’r heddlu. Mae’n galw am fwy o fesurau diogelwch i’r rhai sy’n sefyll dros swydd gyhoeddus.

“Nes i ffonio’r heddlu ac odd hwnna bach yn shambles os fi’n gweud y gwir. Doedden nhw  didm yn gwybod pwy o ni,” meddai.

“Roeddwn i jyst eisiau pwynt cyswllt i drafod y broses o benderfynu beth ddylai symud ymlaen i drosedd go iawn a rhif troseddol.

“Mae rhaid i ni edrych ar sut ni’n cadw pobl yn saff sut maen nhw’n gweithio gydag ymgeiswyr.”

Image
Llinos Medi
Llinos Medi

'Ymdeimlad o ofn'

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol eisiau gweld camau gweithredu yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng Nghaerffili, wrth i Gymru edrych tuag at etholiad y Senedd ar Fai 2026.

Roedd Llinos Medi yn arweinydd Cyngor Môn rhwng 2017 a 2024 cyn cael ei hethol i’r Senedd.

Maen dweud ei bod wedi gweld “cynnydd aruthrol” mewn casineb ar-lein ers cael ei hethol i San Steffan.

Fe brofodd hithau “brofiadau anffodus” pan yn arweinydd ar y cyngor hefyd, meddai.

“Roeddyn golygu bo fi wedi gorfod cael ymgysylltiad gya’r heddlu ac yn y blaen," meddai.

"Ond ma’ rhaid i mi gyfaddef, ers i mi fynd i‘r swydd newydd yma, ma hynna’ di cynyddu yn aruthrol ac ma’r bygythiadau yn fwyfwy amlwg ag ma’r ymdeimlad o ofn yn dod yn fwy amlwg yn y swydd."

Image
Sam Kurtz
Sam Kurtz

'Botwm panig'

Dywedodd Sam Kurtz, AS Ceidwadol, ei fod wedi cael ei gamdrin ar-lein ac, ar un achlysur, wedi derbyn galwadau ffôn parhaus gyda sylwadau hiliol am ei dreftadaeth Almaenig.

Mee ganddo nifer o fesurau diogelwch ar waith, gyda CCTV yn ei gartref yn ogystal â dyfeisiau diogelwch eraill yn ei swyddfa.

“Mae gen i fotymau panig yn fy swyddfa, mae gen i ddyfais gweithiwr unigol a ddarparwyd gan y Senedd,” meddai. 

“Gall rhywun o ganolfan alwadau glywed beth sy’n digwydd ac anfon yr heddlu os oes angen i leoliad penodol.

“Mae hyn bellach yn arfer cyffredin ymhlith gwleidyddion yng Nghymru ac yn San Steffan hefyd. Ac mae’n dangos efallai nad yw’r cyhoedd yn hollol ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.”

Fe ychwanegodd ei fod yn “cael galwadau wythnosol gan yr heddlu lleol i sicrhau diogelwch fy hun a’m staff, ond i sicrhau bod hynny’n digwydd ar draws Cymru gyfan yn yr etholiad nesaf, mae’n rhaid iddo fod yn flaenoriaeth.”

'Annerbyniol'

Yn ôl arolwg gan y Comisiwn Etholiadol ar ôl etholiad cyffredinol 2024 roedd 55% o ymgeiswyr wedi profi aflonyddu, bygythiadau neu gamdriniaeth.

Dywedodd Heddlu Gwent, yr awdurdod Heddlu yng Nghaerffili, fod yr awdurdod lleol wedi cynnal sesiwn friffio diogelwch ar-lein i bob ymgeisydd ac aelod plaid.

Maen nhw'n dweud fod yna “sesiwn wedi darparu canllawiau ar ddiogelwch personol, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i adrodd unrhyw bryderon neu ddigwyddiadau i’r cyngor” ac fe gafodd “gyfeiriad e-bost pwrpaso” ei rannu ar gyfer “unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ystod cyfnod yr ymgyrch".

Fe ychwanegon nhw hefyd nad oedd “unrhyw gyswllt wedi dod gan yr ymgeisydd nac aelodau o Blaid Reform trwy’r sianel hon i adrodd pryderon diogelwch.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae aflonyddu ac annhegwch tuag at ymgeiswyr etholiadol neu’r rhai mewn swydd gyhoeddus yn annerbyniol.

“Mae’r Gweinidog Diogelwch yn arwain gwaith ar draws y llywodraeth, yr heddlu, awdurdodau seneddol a’r Comisiwn Etholiadol i fynd i’r afael â’r gamdriniaeth hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.