Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd y Gymdeithas Bêl-droed, wedi marw

Trefor Lloyd Hughes

Mae Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a'r cynghorydd sir o Fôn, wedi marw.

Bu farw ddydd Iau yn 77 oed, yn dilyn cyfnod o salwch.

Cafodd ei fagu yng Nghaergybi a Bodedern, a roedd yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Ynys Gybi ar Gyngor Môn.

Roedd pêl-droed yn rhan fawr o'i fywyd, ac fe chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad y gamp ar Ynys Môn a thu hwnt.

Roedd y cyn is-bostfeistr Noel Thomas yn ffrind ers 50 mlynedd, o'r adeg roedd o'n bostmon ar Ynys Môn, a Trefor Lloyd Hughes yn gweithio i asiantaeth foduro'r AA.

 Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd wrth Newyddion S4C: "Yn ddiweddarach, ddaeth y ddau ohonan ni'n gynghorwyr, a mi fuo fo'n goblyn o asgwrn cefn i mi dros y blynyddoedd."

Pan gafodd Noel Thomas ei garcharu ar gam yn 2006 fel rhan o sgandal y Swyddfa Bost, bu Trefor Lloyd Hughes yng ngharchar Kirkham i'w weld.

"Nath o 'rioed droi ei gefn arna fi," meddai Mr Thomas. "Dydach chi ddim yn anghofio ffrindiau fel 'na."  

Roedd pêl-droed yng ngwaed Trefor Lloyd Hughes ers pan oedd yn ifanc.

Yn fachgen 15 oed, roedd yn arfer gwerthu tocynnau am 10c o ddrws i ddrws er mwyn codi arian ar gyfer ei glwb lleol ym Modedern.

Bu'n rhaid iddo ymddeol o chwarae pan yn 25 oed yn dilyn anaf, ond gwnaeth gyfraniad enfawr i'r gêm ar lefel cenedlaethol a rhanbarthol dros y blynyddoedd.

Image
Trefor lloyd
Trefor Lloyd Hughes a rheolwr Cymru ar y pryd, Chris Coleman, ar daith o amgylch clybiau pêl-droed lleol Cymru cyn llwyddiant tîm Cymru yn Euro 2016.

"Fysa ffwtbol ar Ynys Môn a Gogledd Cymru ddim yr hyn ydi o heb Trefor," meddai Noel Thomas. 

"Mi helpodd bob math o glybiau pentref i gael grantiau a gwella adnoddau. Roedd helpu cymunedau mor bwysig iddo fo."

Roedd yn gadeirydd ar glwb criced Bodedern am gyfnod, ac yn weithgar yn ei Ysgol Sul leol.

Fe weithiodd fel mecanig, i gymdeithas foduro'r AA ac fel swyddog i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn ddiweddarach.

Yn 2012 cafodd ei ddewis i fod yn llywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Roedd hefyd yn gynrychiolydd UEFA am chwe blynedd rhwng 2013-19.

Cyfraniad i'r gamp ar lawr gwlad

Bu'n Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ac yn Faer ar dref Caergybi hefyd, ond roedd fwyaf adnabyddus ar hyd a lled yr Ynys oherwydd ei rôl fel ysgrifennydd ar Gynghrair Bêl-droed Ynys Môn a Chymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru a chafodd ei urddo 'r OBE yn 2016 am ei waith gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'i gyfraniad i'r gamp ar lawr gwlad.

Mae llu o deyrngedau o'r byd gwleidyddol, o lefel leol i'r llwyfan cenedlaethol, hefyd wedi eu rhoi i Trefor Lloyd Hughes yn dilyn ei farwolaeth.

Dywedodd Arweinydd presennol Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard eu bod "wedi colli cyfaill annwyl, doeth a ffraeth.

"Roedd yn ddyn pêl-droed ac yn ddyn gwleidyddiaeth ond yn fwy na dim byd arall, roedd yn ddyn oedd yn deall gwleidyddiaeth y byd pêl-droed.

"Ar lefel bersonol, byddaf yn colli ein sgyrsiau hir am y gêm brydferth. Ni lwyddon ni erioed i drafod gwleidyddiaeth am yn hir cyn ein bod yn troi at obeithion timau pêl-droed yr ynys neu hynt a helynt y tîm cenedlaethol. 

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys gyda Janet ei wraig a'r teulu oll yn y cyfnod trist yma. Roedd Trefor yn uchel ei barch, nid yn unig yng Nghaergybi ac Ynys Môn, ond ledled Cymru a thu hwnt," ychwanegodd Gary Pritchard.

'Cawr o ddyn'

Roedd cyn Arweinydd y Cyngor ac Aelod Seneddol presennol Ynys Môn, Llinos Medi, hefyd am dalu teyrnged i "gawr o ddyn".

"Mae Caergybi, Ynys Môn a Chymru wedi colli cawr o ddyn," meddai. 

"Yn bendant roedd gan Gaergybi lais cryf pob tro roedd Trefor yn yr ystafell.

"Roedd yn gyfaill annwyl gyda chyngor doeth a byddaf yn colli ein sgyrsiau direidus a heriol gyda gwên. Braint o'r mwyaf oedd cael adnabod person mor arbennig."

Un arall fydd yn cofio Trefor Lloyd Hughes am ei "gwmni ffraeth a direidus" fydd Arweinydd Plaid Cymru ac Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap lorwerth.

"Doedd neb cweit fel Trefor" meddai. 

"Roedd yn gynrychiolydd penigamp i'w gymuned, fel Cymro i'r carn adawodd ei farc drwy wasanaeth i'w wlad, yn arbennig drwy ei gariad a'i ymroddiad at bêl-droed, ond gwnaiff Caergybi, Môn, Cymru a phawb oedd yn ddigon ffodus i'w adnabod fyth ei anghofio."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.