Teyrngedau i ferch 17 oed fu farw mewn ymosodiad honedig yng Nghaerffili

Lainie Williams

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ferch 17 oed a fu farw mewn ymosodiad honedig mewn eiddo yng Nghaerffili.

Bu farw Lainie Williams yng Nghefn Fforest ddydd Iau, ac mae dynes 38 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae dyn 18 oed o Drecelyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa. 

Fe wnaeth swyddogion arfog fynd i'r eiddo yn Wheatley Place am tua 07.15 fore Iau wedi adroddiadau fod dau o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol. 

Roedd gweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn bresennol. 

Mae aelodau o'r gymuned bellach wedi lansio ymgyrch codi arian er cof am Lainie Williams.

"Mae ein calonnau wedi torri wrth i ni gyhoeddi marwolaeth drist ein Lainie Williams hardd, a gollodd ei bywyd yn drasig yn llawer rhy gynnar," meddai datganiad ar wefan GoFundMe.

"Wrth i'w theulu ymdopi â'r golled annirnadwy hon, rydym yn gobeithio dod at ein gilydd fel cymuned i helpu i leddfu'r baich ariannol o roi'r anrhydedd hardd i Lainie y mae'n ei haeddu.

"Bydd unrhyw rodd - mawr neu fach - yn gwneud gwahaniaeth mawr a bydd ei hanwyliaid yn ei gwerthfawrogi'n fawr. 

"Diolch am eich caredigrwydd, cefnogaeth, a gweddïau yn ystod yr amser anodd iawn yma."

Dywedodd y cynghorydd Shane Williams o Gefn Fforest bod y gymuned "wedi ei syfrdanu a'i dristáu'n fawr gan y digwyddiadau, ac rwy'n deall nad yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r hyn ddigwyddodd. 

"Ond fel cynghorwyr, hoffen ni wneud ein gorau i dawelu meddyliau pawb, ac mae ein meddyliau gyda'r teulu ar hyn o bryd.

"Rydym i gyd yn gobeithio am adferiad llwyr i'r fenyw a gafodd ei chludo i'r ysbyty. 

"Mae rhywbeth fel hyn yn anarferol iawn yn yr ardal hon, a gallaf ddeall os yw llawer o drigolion bellach yn ofnus. Pan fydd merch ifanc yn colli ei bywyd fel 'na, mae'n eithaf erchyll."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.