Storm Claudia: 'Mis o law' i rannau o Gymru ddydd Gwener
Fe allai rhai ardaloedd yng Nghymru gael eu taro gan “werth mis o law o fewn 24 awr” ddydd Gwener wrth i rybudd oren am law a llifogydd ddod i rym.
Mae yna ddau rybudd oren yn effeithio ar Gymru ddydd Gwener a dau rybudd melyn, wrth i Storm Claudia daro.
Mae un rhybudd oren yn berthnasol i siroedd Sir Fynwy a Phowys rhwng hanner dydd a hanner nos ddydd Gwener.
Mae ail rybudd oren i Flaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn ystod yr un cyfnod.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am lifogydd a “allai beryglu bywyd,” achosi difrod i adeiladau, a llifogydd ar y ffyrdd.
Dywedodd Prif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Matthew Lehnert y bydd Cymru a rhannau o Loegr yn cael eu taro’n wael gan law rhwng dydd Gwener a dydd Sadwrn.
“Bydd y glaw yn symud yn araf, ac mewn rhai ardaloedd gallai gymaint â mis o law ddisgyn o fewn 24 awr yn unig," meddai.
Mae’n rhybuddio y byddai’r glaw yn cwympo ar dir sydd eisoes wedi’i wlychu, gan gynyddu’r perygl o lifogydd.
Dywedodd y gallai hyd at 150mm o law gwympo mewn rhai ardaloedd wrth i Storm Claudia, a gafodd ei henwi gan Wasanaeth Meteorolegol Sbaen, ddod â glaw trwm all barhau hyd at ddydd Sadwrn.
Ychwanegodd y byddai gwyntoedd cryfion yng ngogledd-orllewin Cymru “hefyd yn berygl ychwanegol, gyda gwyntoedd o 60–70 milltir yr awr yn bosibl.”
Fe fydd rhybudd melyn am wynt yn berthnasol i siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Ceredigion a Phowys, sydd hefyd yn berthnasol rhwng hanner dydd a hanner nos dydd Gwener.
Mae ail rybudd melyn am law rhwng 06:00 ddydd Gwener a 06:00 ddydd Sadwrn yn berthnasol i bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn, Ceredigion a Sir Benfro.
