Prifysgol De Cymru yn y broses o ddiswyddo gweithwyr yn orfodol

Newyddion S4C
Prifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn y broses o ddiswyddo gweithwyr yn orfodol.

Yn ôl undebau, dyma'r tro cyntaf i brifysgol yng Nghymru dorri nifer ei staff drwy broses diswyddo gorfodol eleni.

Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru y bydd ""angen llai nag 20 [diswyddiad gorfodol ymhlith staff academaidd] yn y rhan hwn o'r adolygiad" a'u bod wedi "gweithio'n galed i leihau diswyddiadau gorfodol".

Wedi i Newyddion S4C holi am staff gwasanaethau proffesiynol, cadarnhawyd bod 14 o staff wedi eu diswyddo drwy broses ddiswyddo gorfodol yn gynharach eleni. 

Mae hynny yn ychwanegol i'r staff academaidd.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i'r sector addysg uwch yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig, gyda sawl prifysgol yn dweud eu bod yn wynebu caledi ariannol.

Bu protestiadau ym mhrifysgolion Caerdydd, Bangor a Met Caerdydd yn gwrthwynebu torri swyddi, ac mae cannoedd o weithwyr eisoes wedi gadael eu swyddi mewn prifysgolion drwy gynlluniau gwirfoddol.

Caledi

Yn ôl arweinwyr y prifysgolion, costau cynyddol, lleihad yn nifer y myfyrwyr tramor a chynnydd cymharol fach mewn ffioedd myfyrwyr sydd wedi creu'r caledi diweddar.

Ddechrau wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Addysg Uwch, Vikki Howells, y byddai'r cap ar ffioedd myfyrwyr yn codi unwaith eto, yn unol â Lloegr, yn 2026-27. 

Dyw'r union ffigwr heb ei gadarnhau eto.

Dyma fydd y trydydd cynnydd mewn tair blynedd wedi i ffioedd gael eu rhewi yn £9000 am sawl blwyddyn.

Cadarnhaodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau allai waredu "o leiaf" 20 o swyddi "tra yn creu neu addasu swyddi eraill" ymysg staff gwasanaethau proffesiynol. 

Image
Graddio
Graddedigion (Llun: PA)

Mynnu mae'r brifysgol nad oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi eu cynllunio fel rhan o'r broses, ond mae undebau llafur yn rhybuddio i dros 1,100 gael gwybod y gallen nhw gael eu heffeithio. 

Mae'r ffenest ar gyfer diswyddo gwirfoddol hefyd wedi cael ei ailagor yno, ac mae diswyddiadau gorfodol yn bosibl o hyd mewn prifysgolion eraill.

Pleidlais

Dywedodd undeb yr UCU yr wythnos ddiwethaf iddyn nhw gynnal pleidlais ymgynghorol ymysg staff Prifysgol Caerdydd ym mis Medi, gyda 87% o'r rheiny a bleidleisiodd yn dweud y bydden nhw'n cefnogi streicio.

Dywedodd yr undeb mewn datganiad y bydden nhw yn "gwrthwynebu diswyddiadau gorfodol o Ionawr 2026 i'r 187 o weithwyr sydd yn dal i fod mewn perygl" ac y byddan nhw yn "symud tuag at bleidlais ar weithredu diwydiannol o Dachwedd 17".

Wrth gadarnhau eu bod yn rhagweld torri "llai nag 20" o swyddi drwy ddiswyddo gorfodol, dywedodd Prifysgol De Cymru mewn datganiad:

"Fel nifer o sefydliadau ar draws y sector, rydyn ni'n ymateb i heriau ariannol difrifol. Mae ein rhaglen drawsnewid drylwyr wedi ei dylunio er mwyn esblygu ein ffordd o weithio a sicrhau cynaliadwyedd hir dymor.

"Fel rhan o hyn rydyn ni wedi adolygu'r effaith ar ein gweithlu ar gyfer darpariaeth academaidd. Rydyn ni'n ddiolchgar i'n cydweithwyr ac i'r undebau llafur am eu hymrwymiad cadarnhaol drwy'r broses yma sydd yn parhau."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Prif lun: Prifysgol De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.