'Tap Out Challenge': Rhybudd mam wedi i fachgen o Fôn ddioddef anafiadau difrifol
Mae mam i fachgen ifanc o Fôn a ddiddefodd anafiadau difrifol i'w ben ar ôl cymryd rhan mewn her sydd yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol wedi rhybuddio eraill am beryglon yr her.
Achosodd her y 'Tap Out Challenge' i benglog y bachgen 16 oed gael ei thorri, ac fe ddioddefodd nifer o anafiadau eraill.
Mae'r her yn golygu fod pobl yn dal eu gwynt nes eu bod bron yn anymwybodol, ac fe all arwain at ddiffyg ocsigen i'r ymennydd sydd wedi'i achosi gan fygu.
Mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at drawiadau ar y galon, anaf i'r ymennydd, neu farwolaeth.
'Moment waethaf'
Mae mam y dyn ifanc, sy'n dymuno aros yn ddienw, wedi disgrifio'r profiad fel "moment waethaf" ei bywyd.
Dywedodd: "Roedd gwylio fy mab yn cael ei ruthro i'r Adran Achosion Brys yn hollol ddychrynllyd.
"Roedd ei anafiadau'n arwyddocaol ac yn ystod ei gyfnod yn Ysbyty Gwynedd, bu hefyd o dan ofal Ysbyty Stoke i fonitro ei gynnydd sy'n dangos pa mor ddifrifol oedd ei anafiadau.
"Dydw i ddim am i riant arall fynd trwy'r un profiad â ni. Efallai ei fod yn ymddangos fel ychydig bach o hwyl, ond mae iddo ganlyniadau difrifol - fel yr ydyn ni wedi'u profi, yn anffodus.
"Rydyn ni mor ddiolchgar ei fod o'n dal i fod gyda ni a'i fod bellach yn gwella gartref."
Cafodd y bachgen, a dreuliodd bum niwrnod ar Ward y Plant, ei dderbyn i'r Adran Achosion Brys ar ôl cymryd rhan yn yr her.
'Hynod beryglus'
Mae Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd, a fu'n gyfrifol am driniaeth y dyn ifanc pan gyrhaeddodd yr ysbyty, wedi rhybuddio am y canlyniadau sy'n gallu bod ynghlwm wrth yr her.
"Mae'r her hon yn hynod beryglus a gall arwain at ganlyniadau sy'n newid bywyd neu hyd yn oed ganlyniadau angheuol," meddai Dr Williams.
"Gall diffyg ocsigen i'r ymennydd sydd wedi'i achosi gan fygu arwain at drawiadau, anaf i'r ymennydd, neu farwolaeth - hyd yn oed ar ôl ychydig o eiliadau'n unig.
"Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn ifanc wedi torri ei benglog a chafodd anafiadau difrifol a allai fod wedi bod yn drychinebus.
Ychwanegodd Dr Williams: "Rydyn ni am annog pobl ifanc i feddwl ddwywaith cyn rhoi cynnig ar heriau o'r fath neu ffilmio'r heriau hyn, ac i gofio y gallai'r hyn sy'n ymddangos fel hwyl ddiniwed arwain at ganlyniadau torcalonnus iddyn nhw a'u teuluoedd.
"Rydyn ni'n gweld bod mwyfwy o bobl ifanc o dan ddylanwad yr heriau peryglus hyn ar y cyfryngau cymdeithasol ledled y DU, ac mae'n hollbwysig bod teuluoedd yn cael sgyrsiau am yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein," ychwanegodd.
