Newid Hinsawdd: ‘Ein penderfyniadau yng Nghymru yn effeithio’r byd’
Newid Hinsawdd: ‘Ein penderfyniadau yng Nghymru yn effeithio’r byd’
Mae ymchwilydd blaenllaw o Brifysgol Bangor yn galw ar bobl yng Nghymru i ystyried newid eu ffordd o fyw er mwyn mynd i’r afael â chynnydd yn lefelau’r môr.
Mae Dr Sophie Ward o Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol wedi bod yn ymchwilio newidiadau i lefelau’r môr dros y canrifoedd yng Nghymru ac ar draws y byd.
Yn ôl Dr Ward, mae’r penderfyniad rydym ni yn ei gwneud yng Nghymru yn effeithio nifer o gymunedau ledled y byd.
“Mae ‘na enghreifftiau o godiad lefel y môr yng ngogledd a de Cymru yn barod,” dywedodd.
“Beth sy’n bwysig i ddeall fan hyn yw, nid codiad yn lefel y môr ynddo ei hun yw’r prif risg, ond codiad lefel y môr ‘efo petha’ fel storm surges.
“Mae lefel y môr yn cynyddu ac yna mae e ar ei waethaf pryd mae’r llanw yn uwch a pan mae hyn yn gyd-daro’r gwynt yn chwythu’n gryf neu efo tonnau mawr.
“Achos newid hinsawdd, mae pobol yn gorfod ffoi achos mae lefel y môr yn codi a dydy eu cymunedau ddim yn addas ddim mwy.
“Mae’r sefyllfa’n drist. Mae’r penderfyniadau ‘da ni’n gwneud yma yng Nghymru yn effeithio pobol sydd yn byw ar draws y byd.”
Llun: Dolbinator1000