Newyddion S4C

Cymru'n colli 11 gêm ryngwladol yn olynol gyda chrasfa gan Awstralia

17/11/2024
Cymru yn erbyn Awstralia

Fe wnaeth Cymru golli eu 11eg gêm ryngwladol yn olynol gyda cholled yn erbyn Awstralia yn y Stadiwm Principality.

Bydd dyfodol Warren Gatland yn cael ei gwestiynu wedi'r golled 52-20 yng Nghaerdydd.

Wedi 10 munud o'r gêm, roedd Samu Kerevi trwyddo ar ôl chwarae da gan y Wallabies ond fe wnaeth Tom Rogers yn wych i’w daclo a’i rhwystro rhag sgorio.

Ond dwy funud yn ddiweddarach fe wnaeth Awstralia sgorio cais cynta’r gystadleuaeth drwy Tom Wright. Gyda’r meddiant â’r ymwelwyr ar y llinell 22, fe aeth y cefnwr heibio dau dacl i sgorio yn y gornel. 5-0 i’r Wallabies.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru lai na phum munud yn ddiweddarach wedi iddyn nhw golli’r bêl yn hanner Awstralia.

Fe wnaeth y clo Nick Frost fanteisio i redeg 50 metr yn glir i sgorio, gyda Noah Lolesio yn trosi i’w gwneud hi’n 12-0.

Image
Tom Wright yn sgorio un o'i dri chais
Tom Wright yn sgorio un o dri chais (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Gyda 20 munud ar y cloc daeth cais arall i Awstralia gyda Matt Faessler yn croesi’r llinell wedi sgarmes symudol 5 metr o’r llinell gais.

Tro Cymru oedd hi i sgorio o’r diwedd pedair munud yn ddiweddarach.

Wedi pwysau gan Gymru fe basiodd y mewnwr Ellis Bevan y bêl i Aaron Wainwright, a lwyddodd i groesi o dan y pyst, i’w gwneud yn hawdd i Gareth Anscombe ychwanegu’r trosiad.

Fe gafodd y bwlch ei gwtogi i naw pwynt wrth i gic cosb Gareth Anscombe hwylio drwy’r pyst, ei 100fed pwynt rhyngwladol.

Ac roedd hi’n 103 wedi 33 o funudau wrth i Anscombe gicio’n llwyddiannus eto, a Chymru o fewn trosgais i’r Wallabies. 19-16 i Awstralia ar ddiwedd yr hanner.

Chwalfa'r ail hanner

Munud mewn i’r ail hanner fe dderbyniodd Kerevi garden felen ar ôl taro pen Jac Morgan yn y dacl.

Gydag 14 dyn ar y cae, fe sgoriodd y Wallabies ar 47 munud gyda sgarmes symudol, gyda Matt Faessler yn tirio'i ail a Lolesio yn sgorio'r trosiad.

Wedi’r trosiad, cafodd carden felen Kerevi ei uwchraddio i garden goch, ond carden goch 20 munud yn unig, gan olygu y byddai gan Awstralia 15 chwaraewr yn ôl ar y cae ar ôl 61 munud.

Nid oedd angen 15 chwaraewr ar Awstralia i Faessler gwblhau'r hat-tric o geisiau o sgarmesi symudol, er gwaethaf ymgais Ben Thomas i’w rwystro ar y llinell gais. 33-13 i’r crysau aur.

Roedd Cymru yn meddwl eu bod nhw wedi sgorio eu hail gais ar 56 munud, ond roedd pas Blair Murray i James Botham ar yr asgell wedi gwyro ymlaen.

Gyda 20 munud yn weddill cafodd pas gan Sam Costelow ei ryng-gipio’n hawdd gan Wright, a redodd heb gael ei herio i’r gornel i sgorio’i ail.

Dyna oedd trydydd cais Awstralia gydag 14 chwaraewr ar y cae, a’r tro cyntaf i’r Wallabies sgorio 40 pwynt yng Nghaerdydd.

Image
Chwaraewyr Cymru
Beth sydd nesaf i Warren Gatland a Chymru? (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Fe ddaeth cais cyntaf Cymru yn yr ail hanner wedi 67 munud wrth i Ben Thomas groesi’r llinell o gic gosb, gyda Costelow yn trosi.

40-20 i Awstralia felly gydag ychydig dros 10 munud yn weddill. 

Ond unwaith eto fe sgoriodd Awstralia yn hawdd, gyda’r canolwr Len Ikitau yn rhedeg heibio Cameron Winnett gyda chwe munud yn weddill.

Croesodd Awstralia y trothwy 50 pwynt gyda Tom Wright yn sgorio’i hat-tric wrth i’r cloc troi’n 80.

Embaras llwyr i Gymru yng Nghaerdydd wrth i Awstralia ennill 52-20.

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.