Newyddion S4C

'Tynnu tabŵ' psoriasis trwy ei gyflwyno mewn ffordd 'biwtiffwl'

19/11/2024

'Tynnu tabŵ' psoriasis trwy ei gyflwyno mewn ffordd 'biwtiffwl'

Mae menyw o ardal Aberystwyth yn ceisio "tynnu'r tabŵ" oddi ar gyflwr psoriasis trwy ei gyflwyno mewn ffordd "biwtiffwl" ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Mari Gwenllian Healy, sydd yn aelod o'r grŵp Sorela, a bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi byw gyda psoriasis ers yn 14 oed.

Mae'n gyflwr y croen sydd yn achosi darnau i ymddangos yn dameidiog (patchy), fel arfer gyda chylchoedd pinc neu goch ar y croen.

Tua 1.1 miliwn o bobl yn y DU sydd yn byw gyda'r cyflwr, yn ôl ystadegau newydd.

Dywedodd Mari wrth Newyddion S4C bod y cyflwr wedi effeithio ar ei bywyd mewn sawl ffordd.

“Fi’n cofio cael e cynta’ pan o’n i’n 14 fi’n meddwl. O’dd e rownd scalp fi a fy hairline a obviously oedran ‘na ti’n rili conscious e a rili embarrassed ohono fe.

"O'n i wastod yn trial cuddio fe -  gwisgo headbands mawr fluffy o’dd yn neud e’n waeth basically.

"Fi bendant wedi canslo ar social situations, mynd mas, cwrdd â ffrindie achos fi’n teimlo’n horrible yn bob peth ma 'da fi wisgo, fi’n teimlo’n hyll, ma' gwallt fi’n horrible

"So fi di peidio mynd i weld pobl fi mo'yn mynd i weld achos y ffordd fi'n teimlo am y ffordd fi'n edrych."

Image
Y psoriasis ar hyd corff Mari Gwenllian
Y psoriasis ar hyd corff Mari Gwenllian.

Bum mlynedd yn ôl, cafodd Mari donsilitis gwael iawn, ac o achos hynny, fe gafodd hi fath newydd o psoriasis o'r enw psoriasis guttate.

“Yn 2019 ges i tonsilitis rili rili gwael a achos hwnna, ges i math newydd o psoriasis o’r enw guttate psoriasis. O’dd hwnna i gyd dros y nghorff, patches lot mwy - o’dd hwnna’n rhywbeth newydd.

"Fi’n meddwl bod un fi’n dueddol i waethygu psoriasis fi.

“Ti’n defnyddio ointments, lotions gels bob dydd bron, steroids, so ma rhai o nhw’n arogli, ma rhan fwya o nhw’n staino dillad ti a ma’n eitha' draining gorfod defnyddio pethau ‘na mor aml."

'Hyder corfforol'

Ar ei chyfrif Instagram @h.i.w.t.i  fe rannodd Mari bost yn dangos y psoriasis ar ei chefn.

Dywedodd bod hynny yn anodd iddi bostio, ond mae hi'n ceisio chwalu tabŵ o gwmpas y cyflwr ac yn ceisio helpu pobl eraill.

“Fi’n meddwl bod y ffaith bod fi wedi rhannu siwrne hyder corfforol fi, ma' psoriasis yn rhan mawr o hyder corfforol i fi, mae'n rhan mawr o be fi wedi stryglo gyda yn fy mywyd. 

"So i fi mae i gyd yn dod dan yr un ymbarél. Ma'n tynnu lot o’r tabŵ mas ohono fe i fi. Ma fe’n 'neud fi deimlo, yn lle cuddio fe, fi'n trial rhoi bach o bŵer tu ôl e

"Fi'n trial hefyd dangos e bron mewn ffordd eitha biwtiffwl. Fi’n derbyn negeseuon gan bobl sy'n mynd trwy’r un peth â fi.

"Fi'n teimlo fel bod e'n helpu ambell i berson a ma hwnna'n neud fi deimlo’n rili dda am be' fi'n neud a ma' hwnna'n rhoi hyder i fi rannu be fi'n delio gyda."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.