Glastonbury: Tocynnau yn gwerthu allan mewn llai na 40 munud
Mae tocynnau ar gyfer gŵyl Glastonbury 2025 wedi gwerthu allan o fewn 35 o funudau.
Dywedodd trefnwyr yr ŵyl yng Ngwlad yr Haf bod nifer fawr o bobl wedi ceisio am docynnau eleni.
Fe aeth y tocynnau ar werth am 09:00 fore Sul, gydag un tocyn yn costio £375.50 a ffi bwcio £5 ar ben hynny.
Ar X (Twitter gynt) diolchodd trefnwyr Glastonbury i bawb oedd wedi prynu tocynnau.
"Mae tocynnau ar gyfer ŵyl Glastonbury 2025 nawr wedi GWERTHU ALLAN. Mae e-byst i gadarnhau eich tocynnau yn cael eu danfon draw.
"Diolch i bawb a brynodd tocynnau bore 'ma ac ymddiheuriadau i bawb a gollodd allan."
Fe aeth tocynnau teithio ar fws yr ŵyl ar werth yn gynharach yr wythnos hon.
Roedden nhw wedi gwerthu allan o fewn hanner awr yn unig.
Llun: Wochit