Cynnydd yn nifer y bobl sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau mwy nag unwaith
Mae nifer y bobl a wnaeth yrru dan ddylanwad cyffuriau ar ôl iddynt eisoes eu cael yn euog o’r drosedd yn flaenorol wedi codi 24% mewn blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
Roedd 3,193 o achosion yn ymwneud â gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn 2024 yn gysylltiedig â phobl oedd eisoes wedi eu cael yn euog o’r drosedd yn y gorffennol.
Roedd hynny’n gynnydd o 2,579 yn 2023, yn ôl ffigyrau’r elusen IAM RoadSmart ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cyhoeddi ffigyrau yn dangos niferoedd yr unigolion oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o fod wedi yfed a gyrru neu o fod wedi gyrru dan ddylanwad cyffuriau a sylweddau amgen.
Dywedodd y llu fod dros 200 o bobl wedi cael eu harestio rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 1 Ionawr 2025, a'u bod wedi cynnal "gweithgarwch penodol er mwyn atal gyrwyr sy'n gyrru tra o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau."
"Gwnaed cyfanswm o 203 o arestiadau - 74 am yfed a gyrru 129 am yrru ar gyffuriau - sy'n gynnydd o 12.77% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Ychwanegodd datganiad gan heddlu'r gogledd: "Mae ein hymdrechion ni i sicrhau bod pobl yn saff y tu ô'r i'r llyw yng Ngogledd Cymru yn parhau."
Mae ‘na bosibilrwydd y gallai heddluoedd ennill mwy o bŵer i atal troseddau o’r fath yn y dyfodol yn dilyn strategaeth diogelwch ffyrdd diweddar Llywodraeth y DU, hynny drwy atal pobl dan amheuaeth rhag cael trwyddedau i yrru.
Dywedodd William Porter, rheolwr polisi, materion cyhoeddus a chyfathrebu IAM RoadSmart y byddai’n croesawu newidiadau o’r fath.
Mae’r elusen hefyd yn galw am sefydlu rhaglen benodol er mwyn darparu adnoddau i fynd i’r afael a nifer yr achosion o yrru dan ddylanwad cyffuriau, yn debyg i’r hyn sydd ar gael i bobl a chafwyd yn euog o yrru dan ddylanwad alcohol.
Yn ôl ffigyrau Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, bu farw 74 o bobl wedi gwrthdrawiadau yn gysylltiedig â gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
