Eira ar y ffordd? Rhybudd melyn am rew ac eira i'r gogledd
Bydd rhybudd melyn yn dod i rym am eira a rhew yng ngogledd Cymru yn y dyddiau nesaf.
Fe fydd siroedd Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam yn cael eu heffeithio.
Mae'r rhybudd yn dod i rym am 19:00 nos Lun ac yn parhau tan 10:00 fore Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd ei fod yn debygol y bydd cyfnodau o law ac eirlaw, gydag eira yn cwympo ar fryniau a mynyddoedd. Fe allai hyd at 5-10cm o eira gwympo ar dir is.
"Mae'n bosib bydd yr eira ac eirlaw yn clirio erbyn bore Mawrth, ond fe allai hynny arwain at rew ar y strydoedd," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
"Fe allai tywydd gaeafol achosi oedi a gwneud amodau gyrru yn anodd, felly gwiriwch eith teithiau a chymerwch ofal ar y ffyrdd."
Mae "tebygolrwydd isel" y gallai tai golli cyflenwadau trydan ac i wasanaethau trên a bws gael eu heffeithio.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio cerddwyr a beicwyr i gymryd gofal gan fod rhew yn gallu gwneud palmentydd a llwybrau seiclo yn llithrig.