Rwsia yn lansio 'un o'r ymosodiadau awyr mwyaf' ar Wcráin dros nos
Mae Rwsia wedi lansio "un o'r ymosodiadau awyr mwyaf" ar Wcráin dros nos wrth iddyn nhw dargedu grid pŵer y wlad.
Dywedodd Arlywydd y wlad, Volodymyr Zelensky fod 120 o daflegrau a 90 o dronau wedi eu defnyddio gan luoedd Rwsia mewn "ymosodiad enfawr ar holl ranbarthau Wcráin."
Dywedodd cwmni ynni preifat mwyaf Wcráin bod yr ymosodiad wedi achosi "difrod sylweddol" i'w gweithfeydd ynni.
Yn ôl cwmni DTEK, dyma'r wythfed ymosodiad ar raddfa fawr ar eu gorsafoedd eleni.
Disgrifiodd y gweinidog tramor Andrii Sybiha fel "un o'r ymosodiadau awyr mwyaf".
"Fe wnaethon nhw lansio dronau a thaflegrau yn erbyn dinasoedd heddychlon, pobl oedd yn cysgu, seilwaith hanfodol," meddai.
"Dyma ymateb y troseddwr rhyfel Putin i'r nifer oedd wedi ei alw a'i ymweld ag ef yn ddiweddar."
Ofnau swyddogion yn Wcráin yw y bydd ymosodiad o'r fath hon yn parhau mewn ymgais i ddinistrio cyflenwad ynni'r wlad wrth i'r gaeaf gyrraedd.
Byddai hynny yn gallu arwain at ddim cyflenwad trydan na gwres i filiynau o bobl.
Llun: Wochit