Cymeradwyo safle newydd ar gyfer ysgol yng Nghastell-nedd
Mae cynllun ar gyfer safle newydd i ysgol yn ne Cymru wedi cael ei gymeradwyo.
Fel rhan o gynllun gwella ysgolion strategol Cyngor Castell Nedd Port Talbot, fe fydd adeilad newydd yn cael ei godi ar gyfer Ysgol Gyfun Gymunedol Llangatwg yng Nghastell-nedd.
Bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu hadeiladu o fewn ffin bresennol yr ysgol, i’r dwyrain o’r adeiladau presennol.
Fe fydd y cyfleusterau newydd yn cynnig darpariaeth i hyd at 850 o ddisgyblion pan fyddant wedi’u cwblhau.
Bydd hyn yn cynnwys ystafelloedd dosbarth modern, labordai, ardaloedd dysgu ar deras to’r adeilad, ystafelloedd TG a chanolfan adnoddau dysgu.
Bydd yna hefyd neuadd chwaraeon a pherfformio newydd, dau gae chwaraeon newydd, tair ardal gemau aml-ddefnydd ac ysgol goedwig.
Yn ogystal bydd ardal parcio newydd yn cael ei hadeiladu gydag arosfannau i fysiau, ceir a thacsis.
Wrth siarad yng nghyfarfod cynllunio’r cyngor, fe wnaeth y Cynghorydd Phil Rogers annog aelodau i gefnogi’r cynllun gan ddweud bod angen dybryd am yr ysgol newydd.
Dywedodd swyddogion eu bod yn argymell y cynnig, gyda’r bwriad o adeiladu’r adeilad mewn camau gan ganiatáu i’r ysgol aros ar agor drwy gydol y datblygiad.
Yn dilyn trafodaethau, cymeradwywyd y cynlluniau’n unfrydol gan gynghorwyr yn y cyfarfod cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ionawr.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo’n unfrydol yn y cyfarfod gan gynghorwyr.
