Tanni Grey-Thompson: Gallai'r bil cymorth i farw arwain at 'newid byd' i bobl anabl
Mae'r pencampwr Paralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud y gallai'r bil cymorth i farw arwain at "newid byd" i bobl gydag anableddau.
Dadleuodd y byddai'r bil yn gallu arwain at newidiadau mawr yn y ffordd mae'r system iechyd yn gofalu am bobl.
"Dwi'n annog Aelodau Seneddol i ddeall arwyddocâd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith a'r newid enfawr y byddai'n achosi i'r ffordd rydym yn dewis i ofalu am y bobl sydd mwyaf bregus," meddai.
Oedolion sydd â salwch angheuol a gyda llai na chwe mis i fyw ac sydd â dymuniad sefydlog i ddod â’u bywydau i ben yn unig fyddai’n gymwys o dan y gyfraith.
Pryder Tanni Grey-Thompson yw y bydd y gyfraith newydd, pe bai'n cael ei basio, yn cael ei estyn i blant neu rhai sydd yn byw gyda salwch meddyliol neu anableddau.
“Mae amddiffyn pobl yn rhywbeth y mae’r gwaharddiad presennol ar annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn ei wneud yn dda,” meddai.
“Ni ddylai ASau fod ag unrhyw amheuaeth y byddai newid i’r gyfraith hon yn newid y dirwedd wleidyddol a chymdeithasol i bobl anabl yn fawr."
'Targedau awtomatig'
Mae adroddiad gan Dr John Keown yn dadlau y gallai'r gyfraith arfaethedig greu "llwybr mwy llithrig" ac wedi dadlau y gallai pobl eraill cael eu targedu.
Cafodd galwadau'r Farwnes Grey-Thompson eu cefnogi gan Kevin Shinkwin, ymgyrchydd hawliau anabledd ac AS Ceidwadol, a gafodd ei eni â chlefyd esgyrn brau.
“Mae enghreifftiau mewn cyfreithiau eraill yn dangos bod mesurau diogelu yn cael eu dinistrio'n gyflym, a phobl gydag anableddau sydd yn cael eu gwneud yn dargedau awtomatig,” meddai.
Cost
Dywedodd Kim Leadbeater, AS Llafur a chefnogwyr y bil arfaethedig ei fod yn cynnwys “tair haen o graffu” y mae angen i ddau feddyg a barnwr Uchel Lys ei gymeradwyo.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting, wedi gorchymyn swyddogion y GIG i gynnal dadansoddiad cost o unrhyw newid ac wedi rhybuddio y gallai gostio mwy i’r system iechyd pe bai deddf newydd yn cael ei basio.
Canfu ymchwil gan Gyngor Biofoeseg Nuffield (NCOB) fod mwyafrif y bobl yn cefnogi deddfu ar gyfer marw â chymorth yn Lloegr.
Ond mae rhai rhybuddion yn gysylltiedig â'r gefnogaeth - gan gynnwys gweithredu mesurau diogelu i sicrhau na allai'r gwasanaeth gael ei ddefnyddio'n amhriodol, yn ôl ymchwilwyr.