Newyddion S4C

Dyn ifanc yn cyhuddo Huw Edwards o ymddygiad amhriodol tra’r oedd yn ddisgybl ysgol

Y Byd ar Bedwar 18/11/2024

Dyn ifanc yn cyhuddo Huw Edwards o ymddygiad amhriodol tra’r oedd yn ddisgybl ysgol

Mae dyn ifanc wedi cyhuddo’r cyn-ddarlledwr Huw Edwards o ymddygiad amhriodol tra’r oedd yn ddisgybl ysgol 18 oed. 

Fe wnaeth Huw Edwards, 63, anfon negeseuon awgrymog ato a’i wahodd i ymweld ag adeilad y BBC yn Llundain. 

Cafodd Edwards, sy’n wreiddiol o Langennech, Sir Gâr, ei ganfod yn euog ym mis Medi 2024 o greu delweddau anweddus o blant. Dydy honiadau'r dyn ifanc, sy’n dyddio nôl i 2018, ddim yn gysylltiedig â’r achos troseddol hwn.

Mae Emyr, nid ei enw go iawn, yn credu ei bod hi’n “amlwg bod e’n trial groomo fi.

“Ma’ pobl fel fe yn credu eu bod nhw’n gallu ’neud be bynnag ma’ nhw moyn, a abuso’r pŵer. Jyst manipulative completely,” meddai wrth siarad am y tro cyntaf ac yn anhysbys gyda rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar ar S4C. 

Image
Emyr (nid ei enw go iawn)
Cafodd Emyr, nid ei enw go iawn, ei dywys o gwmpas y BBC yn Llundain gyda Huw Edwards pan oedd yn ddisgybl ysgol chweched dosbarth. (Llun: Y Byd ar Bedwar)

Diddordeb 'gwneud cysylltiad' gyda’r dyn ifanc

Fe wnaeth Emyr gyfarfod â Huw Edwards mewn cyngerdd, lle’r oedd yn perfformio yn ei wisg ysgol a’r darlledwr yn arwain y noson.

“Fe dda’th e lan ato fi ar ddiwedd y gyngerdd i ddweud helo. Fe ddwedodd e bod y perfformiad yn dda, ’mod i’n dalentog iawn a bod diddordeb gyda fe i wneud rhyw fath o gysylltiad da fi.”

Mae’n honni i Huw Edwards ddweud wrtho am ei ddilyn ar Instagram ac y byddai’n gallu helpu Emyr gyda’i yrfa berfformio.

“O’dd e wedi gofyn os fydden i moyn dod i Lunden i gwrdd â fe a gweld y BBC, ac y galle fe rhoi tour i fi a falle cwrdd â chwpwl o gysylltiadau.”

Gweld y negeseuon fel 'banter ar y pryd'

Yn yr wythnosau ar ôl i Emyr gwrdd â Huw Edwards, bu’r ddau yn siarad ar-lein.

Byddai’r darlledwr, sydd bron i 40 mlynedd yn hŷn nag Emyr, yn aml yn rhoi cusanau a chalonnau ar ddiwedd negeseuon ac fe wnaeth ei alw yn ‘babe’ ac yn ‘big boy’.

Ar y pryd roedd Emyr yn credu fod Edwards yn bod yn bryfoclyd, ond nawr mae’r negeseuon yn ymddangos yn amhriodol: “O’dd e’n trial flirto. Rhyw fath o ‘grooming communication.”.

Fe wnaeth Emyr dderbyn cynnig Huw Edwards i’w dywys o amgylch pencadlys y BBC yn Llundain, lle gwnaeth ei gyflwyno fel “ffrind” oedd â “thalent” yn y maes perfformio. 

Roedd Huw Edwards wedi dweud y gallai helpu’r dyn, sydd bellach yn ei ugeiniau, i sicrhau cyfleoedd i berfformio mewn cyngherddau pwysig yn Llundain. 

Ond yn fuan wedi’r ymweliad gyda’r BBC, fe ddaeth y cysylltiad rhwng y ddau i ben a ni dderbyniodd Emyr unrhyw gyfleoedd yn sgil ei gysylltiad gyda’r darlledwr.

“O’dd e just di colli diddordeb ynddo fi. Fi’n meddwl o’n i ddim yn rhoi iddo fe be’ o’dd e'n chwilio am.”

‘Teimlo’n lwcus’ 

Mae Emyr yn credu fod y darlledwr wedi camddefnyddio’r pŵer oedd ganddo fel un o wynebau amlycaf y BBC.

“Ma’ pobl fel fe yn credu ma nhw’n gallu ‘neud be bynnag ma nhw moyn… a abuso’r pŵer.

“Rwy’n teimlo’n drist iawn am y bobl sydd wedi cael eu heffeithio’n waeth na fi. Fi’n teimlo’n lwcus mewn ffordd. Ma’ fe’n hollol disgusting.”

Mae tîm Y Byd ar Bedwar wedi siarad gyda nifer o gyn-gydweithwyr Huw Edwards sy’n cadarnhau iddynt ei weld yn tywys pobl nad oedd yn gweithio i’r gorfforaeth o gwmpas yr adeilad. Fe ddywedon nhw na fydde hyn wedi ymddangos yn amhriodol ar y pryd. 

Er i Y Byd ar Bedwar gysylltu gyda’r cyn-gyflwynydd am gyfweliad i drafod honiadau Emyr, ni chafwyd unrhyw ymateb ganddo. 

Codi cwestiynau am wiriadau’r BBC

Mae’r profiad wedi gwneud i Emyr gwestiynu a oedd yna ddigon o wiriadau mewn lle gan y BBC i’w ddiogelu fe pan gafodd ei wahodd i’r adeilad gan Huw Edwards.

“Jyst oherwydd o’n ni gyda Huw, o’n i’n gallu cerdded mewn heb unrhyw broblem. Dwi ddim yn cofio cael unrhyw un yn gofyn i fi pam o’n i yna, na’r rheswm o’n i’n dod i mewn.

“Dyle fod rhyw fath o procedure mwy llym neu reswm proffesiynol pam fod rhywun yn dod i mewn i’r adeilad.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan droseddau Huw Edwards ac wedi bod yn glir ynglŷn â hynny.

“Mae wedi bradychu nid yn unig y BBC, ond cynulleidfaoedd oedd wedi ymddiried ynddo.

“Mae adolygiad annibynnol wedi’i gomisiynu gan y Bwrdd o ddiwylliant gweithle’r BBC ar y gweill ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio’n benodol ar atal camddefnydd pŵer a sicrhau bod pawb yn y BBC yn ymddwyn yn unol â’n gwerthoedd.

“Mae gan y BBC bolisïau a phrosesau diogelu cadarn ar waith.

“Os bydd pobl yn cysylltu â ni’n uniongyrchol gyda phryderon am ein protocolau byddwn yn edrych ar y rhain yn ofalus, yn unol â’n Fframwaith Cwynion.”

Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar ‘Huw Edwards: y darlledwr, y troseddwr’, ar S4C nos Lun am 20:00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.