'Gofid': Ffermwr o Sir Benfro yn teithio i San Steffan i lobïo
'Gofid': Ffermwr o Sir Benfro yn teithio i San Steffan i lobïo
Fe fydd ffermwyr o Gymru ymhlith y rhai fydd yn teithio i Lundain i lobïo ASau ynghylch newidiadau i’r dreth etifeddiaeth.
Mae Undeb yr NFU wedi trefnu cynhadledd yn Church House yn San Steffan ble mae'r undeb yn disgwyl hyd at 1,800 i fod yno.
Yn eu plith bydd Hedd Davies o Fferm Penlanwynt yn Sir Benfro. Mae tair cenhedlaeth o’r teulu Davies yn ffermio defaid ar ryw 300 o erwau o ucheldir Cwm Gwaun.
Maent yn pryderu am y dyfodol ar ôl y Gyllideb fis diwethaf, ble gyhoeddwyd newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar ffermydd gan y Canghellor Rachel Reeves.
Wrth siarad ar raglen Ffermio, dywedodd tad Hedd, Vivian Davies: “Mae dipyn o ofid. Fe alle fe affecto lot ar y genhedlaeth nesa dw i’n teimlo.
“Mae’r arian yn tied up yn y ffarm yndyfe, on paper ma nhw’n gweud bo chi werth lot o arian ond ar bapur yn unig.”
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn.
Bydd yn rhaid talu'r dreth yma dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm yn uwch na £1m. Gallai'r ffigwr yma fod yn £2m mewn achosion lle mae cwpwl yn gadael eu heiddo i blant neu blentyn.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn dweud bod hi'n debygol na fydd llawer o ffermwyr yng Nghymru yn cael eu heffeithio.
"Mae'r data sydd gennym gan y Trysorlys yn dangos mai 500 ystâd ffermio ar draws y DU, rydym ni'n credu, fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau," meddai.
Ond gwadu hynny mae undebau amaethyddol fel NFU Cymru.
'Trethu'r ased'
Dywedodd Hedd Davies: “Y broblem fwya’ yw gwybod bod nhw di capio’r peth ar miliwn a di miliwn dyddia yma yn ddim byd o ran gwerth ffarm.
“Os chi’n gweld rownd ni fan hyn, dim ond ffermydd teuluol sydd bobman, a dwi’n siŵr bydd e’n effeithio pawb.
“Trethu’r ased maen nhw, yr ased sydd ‘da ni, sef y tir. A’r tir yna sy’n galluogi ni fel ffermwyr i gynhyrchu bwyd a chynhyrchu incwm sydd yn y man draw, ni’n talu treth ar hwnnw ta beth...dwi ddim yn meddwl bod e’n deg iawn be maen nhw’n wneud, o gwbl rili.
“Os gewn ni’n trethu fel maen nhw’n gweud, na’r unig ffordd fyddwn ni’n gallu codi’r arian yw i werthu’r peth o’r lle bant yndyfe, achos dyw’r arian ddim i’w gael.”
'Bydd rhaid i ni ffeito'
Dywedodd Gethin Davies, mab Hedd: “Bydd e’n siom fawr i ni orfod trafod a meddwl am orfod gwerthu rhan o’r fferm neu’r tir just ar gyfer cyfro’r gost o’r dreth ‘ma.
“Dwi’n gobeithio allwn ni berswadio nhw (y Llywodraeth) i newid rhywbeth. Allwn ni ddim copo' ‘da fe fel ma’ fe ar y funud, so bydd rhaid i ni ffeito nawr i newid e.”
Fe fydd Hedd yn teithio i Lundain oherwydd ei fod yn credu fod y pwnc yn “beth rhy fawr i just ishte nôl a cymeryd.”
“I ni fel ffermwyr wedi gorfod cymryd yr holl newidiadau ma da’r NVZs (mesurau rheoli llygredd dŵr) a’r system dalu SFS (Cynllun Ffermio Cynaliadwy) ‘ma, ni’n byw ‘da TB ers gyment o amser.
“Ma hynna ddim byd i gymharu â beth yw hwn, fi’n teimlo, achos mae’n final nail in the coffin fi’n teimlo. Mae’n rhaid i ni sefyll lan fel un, yn erbyn y peth.”
Fe fydd modd gwylio’r bennod hon o Ffermio am 21.00 ar nos Lun.