Newyddion S4C

Clwb rygbi'n gohirio gemau ar ôl 'argyfwng meddygol'

Clwb Rygbi Yr Aman

Mae clwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin wedi gohirio eu gemau y penwythnos yma ar ôl "argyfwng meddygol".

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Rygbi yr Aman ger Rhydaman bod gemau eu holl dimoedd wedi eu gohirio yn sgil y digwyddiad nos Wener.

"Oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld byddwn ar gau heddiw - ac mae'r gemau i gyd wedi eu gohirio, allan o barch," medden nhw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i "argyfwng meddygol" yn stadiwm y clwb tua 22:00 nos Wener.

Roedd ambiwlans awyr wedi cael ei alw i'r lleoliad hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Roeddem wedi derbyn galwad nos Wener am 21:55 ar ôl argyfwng meddygol yng Nghlwb Rygbi Yr Aman yn Rhydaman.

“Fe wnaethon ni anfon ambiwlans a chafodd y criwiau eu cefnogi gan ymatebwr cyntaf cymunedol a pharafeddygon Uned Ymateb Aciwt Uchel Cymru.

“Rhoddwyd cymorth gofal critigol uwch mewn hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.