Rygbi: 'Cyfle euraidd' i Gymru ennill yn erbyn Awstralia
Rygbi: 'Cyfle euraidd' i Gymru ennill yn erbyn Awstralia
Mae gan Gymru "gyfle euraidd" i ennill yn erbyn Awstralia meddai cyn ganolwr Cymru Jamie Roberts.
Fe gollodd y Cymry eu degfed gêm ryngwladol o'r bron ddydd Sul diwethaf yn erbyn Ffiji.
Dyna oedd y tro cyntaf i'r ynyswyr ennill yng Nghaerdydd, tra bod Awstralia wedi ennill yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru i wynebu'r Wallabies.
Fe enillodd Cymru yn erbyn eu gwrthwynebwyr ddydd Sul yng Nghwpan y Byd Ffrainc y llynedd, ond yr Awstraliaid oedd yn fuddugol mewn dwy gêm brawf dros yr haf eleni.
'Cyfle euraidd'
Mae Jamie Roberts yn dweud y bydd yn dasg anodd i Awstralia gyrraedd yr un safonau a lwyddon nhw i gyrraedd yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
“Bydd e’n anodd iawn i Awstralia nawr ailadrodd beth wnaethon nhw yn Twickenham," meddai.
“Bydd chwaraewyr yn dweud ‘tho chi, i gael yr egni ‘na a'r rhyddhad o ennill ar ôl bod trwy sbel anodd, mae Awstralia wedi bod trwy sbel anodd.
“Ailadrodd yr egni ’na a’r emosiwn ‘na'r wythnos ar ôl - ma’ fe’n anodd iawn."
Ychwanegodd ei fod yn bwysig i Gymru sylweddoli hynny a gwneud y mwyaf o'r cyfle yn Stadiwm y Principality.
“Felly mae’n bwysig fod bois Cymru yn deall ‘na. Fi’n meddwl mae ‘da nhw siawns ffantastig o dda, mae’r squad yn llawn talent.
“Os ma nhw’n mynd mas ac ymosod fel wnaethon nhw yn yr ugain munud cynta’ ‘na yn erbyn Ffiji, mae ‘da nhw cyfle euraidd.”
Y garfan
Mae Warren Gatland wedi dewis Tom Rogers i gymryd lle Mason Grady ar yr asgell wedi iddo orfod tynnu allan o'r garfan gydag anaf.
Mae Jac Morgan a James Botham yn dechrau yn y rheng ôl gydag Aaron Wainwright, yn lle Tommy Reffell, sydd ar y fainc, a Taine Plumtree, sydd heb ei gynnwys yn y garfan.
Sgoriodd Ellis Bevan oddi ar y fainc yn erbyn Ffiji ac fe fydd yn dechrau yn lle Tomos Williams yn y safle mewnwr yn erbyn y Wallabies.
Bydd pump o flaenwyr a thri olwr ar y fainc yr wythnos hon, gyda Rhodri Williams, Eddie James yn ymuno gyda Sam Costelow fel eilyddion yr olwyr.
Bydd Cymru yn ceisio osgoi colli 11 gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.
Dyma garfan llawn Cymru:
15. Cameron Winnett
14. Tom Rogers
13. Max Llewellyn
12. Ben Thomas
11. Blair Murray
10. Gareth Anscombe
9. Ellis Bevan
1. Gareth Thomas
2. Dewi Lake (C)
3. Archie Griffin
4. Will Rowlands
5. Adam Beard
6. James Botham
7. Jac Morgan
8. Aaron Wainwright
Eilyddion
16. Ryan Elias
17. Nicky Smith
18. Keiron Assiratti
19. Christ Tshiunza
20. Tommy Reffell
21. Rhodri Williams
22. Sam Costelow
23. Eddie James
Fe allwch chi wylio Cymru yn erbyn Awstralia ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 15:30.
Llun: Asiantaeth Huw Evans