Newyddion S4C

Ffermwyr yn protestio y tu allan i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno

Ffermwyr yn protestio yn Llandudno

Mae ffermwyr sydd yn protestio y tu allan i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o "ddinistrio diwydiant sydd yn barod yn dioddef."

Fore Sadwrn roedd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi annerch y gynhadledd yn Llandudno.

Dechreuodd ffermwyr brotestio ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd ddydd Gwener ac maen nhw wedi parhau ddydd Sadwrn.

Image
Ffermwyr yn protestio ar bromenâd Llandudno ddydd Gwener. Llun: Wochit
Ffermwyr yn protestio ar bromenâd Llandudno ddydd Sadwrn (Llun: Wochit)

Roedd y protestiadau wedi eu trefnu gan y grŵp Digon yw Digon, a hynny oherwydd y newid i godi treth etifeddu ar ffermydd.

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn. 

Pobl 'methu fforddio bwyd'

Dywedodd Gareth Wyn Jones, ffarmwr o Lanfairfechan sydd yn protestio tu allan i'r gynhadledd, y byddai pobl sydd yn dlotach methu fforddio prynu cynnyrch y ffermwyr mwyach.

"Dydyn ni methu cymryd mwy o hyn, maen nhw'n dinistrio diwydiant sydd yn barod ar ei liniau ac yn dioddef, dioddef yn llwyr yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol," meddai wrth Sky News.

"Bydd y bobl mewn cymdeithas sydd yn fwy tlawd ddim yn gallu fforddio bwyd, da, iachus, maethlon Prydeinig, felly mae'n rhaid i ni gosbi'r Llywodraeth a gwneud iddyn nhw ddeall mai digon yw digon." 

Image
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn. Llun: Wochit
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn (Llun: Wochit)

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn dweud mae'n debyg ni fydd lawer o ffermwyr yng Nghymru yn cael eu heffeithio.

"Mae'r data sydd gennym gan y Trysorlys yn dangos mai 500 ystâd ffermio ar draws y DU, rydym ni'n credu, bydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau," meddai.

"Natur ffermio yng Nghymru yw bod nifer o ffermydd llai... felly nid oes gennym ffermydd cyfoethog, mawr fel sydd gennym mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig, dydyn nhw ddim yng Nghymru."

Gwadu'r sylwadau hynny mae Gareth Wyn Jones.

"Mae nifer o ffermwyr yn y wlad hon yn eu 70au a 80au, a dydyn nhw heb basio ei ffermydd ymlaen oherwydd dyna'r ffordd mae pethau wedi bod erioed.

"Maen nhw wedi gwybod erioed nad oedd treth etifeddu mynd i ddigwydd."

Prif lun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.