Newyddion S4C

'Gornest llwm': Jake Paul yn llwyddo i ennill yn erbyn Mike Tyson

16/11/2024
Jake Paul v Mike Tyson

Fe enillodd Jake Paul yn erbyn Mike Tyson mewn gornest bocsio sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "gornest llwm."

Fe wnaeth y seren YouTube, sydd wedi troi at fyd bocsio, ennill yn erbyn Tyson ar benderfyniad pwyntiau.

Doedd y cyn bencampwr byd Mike Tyson heb ymladd yn broffesiynol ers 19 o flynyddoedd cyn yr ornest yn erbyn Paul yn Arlington, Texas.

Roedd 70,000 yn gwylio'r gystadleuaeth, oedd yn wyth rownd dau funud o hyd, yn Stadiwn AT&T.

Fe lwyddodd Tyson i ddyrnu Paul ar 18 achlysur yn unig yn yr ornest, tra bod Paul wedi pwnio'i wrthwynebydd 78 o weithiau.

80-72, 79-73 a 79-73 oedd sgoriau'r beirniaid o blaid Paul.

Disgrifiodd newyddiadurwr bocsio'r BBC, Kal Sajad y digwyddiad fel "gornest llwm."

"Nid yw'r canlyniad yn syndod ac mae'r rhai oedd yn dweud bod hwn yn gwatwar y gamp yn gywir. Dywedodd Tyson bod ei galon ddim yn y byd bocsio wedi iddo golli i Kevin McBride yn 2005.

"Yn gynnar yn yr ornest roedd yn amlwg bod hwn yn ddyn yn ei 50au hwyr oedd gyda lot o bŵer ond dim stamina.

"Roedd Paul, sydd yn 31 blwyddyn yn iau na Tyson wedi dechrau ei bwnio'n wael.

"Beth bynnag yw bwriad Tyson, er mwyn ei ddiogelwch ac yn neges i gyn bencampwyr, gobeithio bod hwn yn dangos bod dychwelyd i focsio ddim pob tro yn syniad da iawn."

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.