'Angen buddsoddi yn y celfyddydau neu fydd 'na ddim dyfodol i'r diwydiant'
'Angen buddsoddi yn y celfyddydau neu fydd 'na ddim dyfodol i'r diwydiant'
Wrth i'r Nadolig agosau maen nhw ynghanol ymarferion pantomeim yn Theatr Clwyd.
Mae'r sector wedi wynebu toriadau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae 'na boeni yma y bydd effaith sylweddol os yw hynny'n parhau.
Os ydyn ni ddim yn buddsoddi yn y celfyddydau fydd 'na ddim diwydiant na dyfodol i'r ffordd mae Cymru'n gweithio.
Y ffordd mae o'n magu talent a chyfleoedd i bobl yn y celfyddydau.
Mae gennym ni ddewis.
Ydyn ni eisiau mynd lawr y ffordd o breifateiddio'r celfyddydau neu ydyn ni eisiau creu celf a chyfleoedd i bawb?
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar effaith economaidd y sector yng Nghymru.
Mae hwnnw'n dangos am bob punt sy'n cael ei fuddsoddi yn y diwydiant bod £2.51 yn cael ei roi yn ôl mewn i'r economi.
Er y toriadau diweddar mae cyflogaeth o fewn y celfyddydau diwylliant a diwydiannau creadigol wedi cynyddu dros y ddegawd ddiwethaf.
Dydy'r celfyddydau ddim yn gyfrifoldeb statudol i awdurdodau lleol ac felly'n naturiol pan maen nhw'n gorfod gwneud arbedion maen nhw'n mynd i edrych ar bethau sydd ddim yn statudol.
Felly ges i fy ngofyn yn y pwyllgor diwylliant yn y Senedd os dylid y celfyddydau fod yn gyfrifoldeb statudol.
Fy marn i yw dyle fe fod oherwydd byddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r sector.
Dyna be sy'n bwysig am yr adroddiad yma.
Mae gan y sector arf i fynd at wleidyddion a'r rheiny sydd yn ariannu'r celfyddydau a dweud bod y celfyddydau o bwys ac os nad ydyn nhw yn cael eu hariannu'n iawn mae pethau am ddioddef.
Mae rhywun yn gwybod bod y sefyllfa economaidd yn anodd ar bob lefel, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Pan mae 'na dorri'n dod mae'r celfyddydau'n darged meddal.
Mi fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft gan egluro sut y byddan nhw'n gwario eu harian.
Maen nhw'n dweud na ddylai'r heriau ariannol effeithio ar eu huchelgais hir-dymor ar gyfer y sector.
Yr alwad yn glir felly fel nifer o sectorau mae angen rhagor o gefnogaeth neu nid pawb fydd yn gallu elwa o'r celfyddydau.