Newyddion S4C

'Rhoi Port ar y map': Menter newydd dyn o Borthmadog wrth iddo agor siop ddillad

17/11/2024

'Rhoi Port ar y map': Menter newydd dyn o Borthmadog wrth iddo agor siop ddillad

Wrth i siopau'r stryd fawr gau ar draws y wlad, mae dyn o Wynedd wedi brwydro yn erbyn y lli wrth agor ei siop ddillad ei hun.

Bydd Daniel Davies yn agor drysau Signori ar Stryd Fawr Porthmadog yr wythnos nesaf, a hynny ar adeg pan mae nifer o ddrysau eraill yn cau.

Mae 6,945 o siopau wedi cau yn y DU hyd yma eleni, sy'n cyfateb i 38 siop y dydd, yn ôl ffigyrau'r cwmni cyfrifo PwC.

Ond yn ôl Daniel, mae ‘na alw am siopau ar y Stryd Fawr yn enwedig yng ngogledd Cymru.

“Ma’ ‘na dal galw am siop ddillad lle 'da chi’n cerddad mewn a trio petha’ ‘mlaen, cal siarad efo pobol, cymorth am be i wisgo,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Dw i’n goro teithio mor bell â Lerpwl neu Manceinion i gael mynd a trio petha' ymlaen, felly dw i’n teimlo bod ‘na alw yma’n lleol.”

'Rhoi Port ar y map'

Mae Porthmadog yn adnabyddus am ei hanes morwrol, diwydiant llechi a'i rheilffordd hanesyddol.

Nid yw'r dref yn tueddu i ddenu pobol sy'n chwilio am ddillad newydd – ond mae Daniel eisiau newid hynny, gan roi Port ar y map yn y byd ffasiwn.

Bydd ei siop yn gwerthu siwtiau a dillad gan ddylunwyr Eidaleg, gan gynnwys Stone Island, Hugo Boss a C.P. Company.

“Eidalwyr ydi’r bobol fwya’ smart yn y byd, nhw sy’ bob tro efo’r brandia’ gorau,” meddai.

Dyna lle ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr enw Signori, sef y gair Eidaleg am fonheddwr.

Ar ôl agor y siop dydd Sadwrn nesaf, mae Daniel yn gobeithio teithio i'r Eidal i gael rhagor o ddillad i'w gwerthu.

Ond mae hefyd yn gobeithio gwerthu dillad gan ddylunwyr o'i ffiltir sgwâr yng Ngwynedd.

“Dyna fydd y step nesa, dw i’n gobeithio fydd pobol leol yn dod i gysylltu efo fi a cael brandia' nhw yn y siop,” meddai.

“Dw i isho trio helpu busnesa bach i gael enw da am dillad nhw.” 

Er ei fod yn bwriadu gwerthu dillad ar-lein, mae cryn dipyn o gyffro am agoriad y siop.

“Ma’r ymateb dw i ‘di gael ers rhoi wbath bach ar Facebook ‘di bod yn briliant,” meddai.

“Ma’ pobol yn pasio’r siop bob dydd yn gofyn pryd dw i'n agor.

“Alla i’m meddwl am nunlla gwell i agor siop na Stryd Fawr Port.”

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.