Caernarfon: Dirwyo dau am dipio gwastraff mewn mynwent

Tipio Peblig

Mae dau berson wedi derbyn dirwy yn dilyn achos o dipio gwastraff yn anghyfreithlon mewn mynwent yng Nghaernarfon.

Cafodd Cyngor Gwynedd gŵyn am sbwriel ym Mynwent Llanbeblig dros gyfnod y Nadolig.

Rhoddwyd cosb o £150 i un person am ofyn i rywun nad oedd gyda thrwydded i gludo gwastraff ar eu rhan. 

Cafodd yr unigolyn arall gosb o £180 am gael gwared ar y gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon ac am gludo gwastraff ag yntau heb drwydded i wneud hynny.

Yn dilyn yr achos, mae arwyddion newydd wedi’u gosod yn y fynwent i rybuddio’r cyhoedd yn erbyn tipio anghyfreithlon.

Image
Tipio
Arwyddion newydd sydd wedi eu gosod yn y fynwent gan y cyngor

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Stryd: “Mae tipio slei bach, gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill yn cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau a’n hamgylchedd. 

"Ni fyddwn yn goddef gweithredoedd hunanol fel y gwelwyd yn ardal Llanbeblig yn ddiweddar, a byddwn yn defnyddio ein pwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig ac, lle bo angen, i erlyn y rhai sy’n gyfrifol.

 “Nid oes unrhyw esgus am daflu neu adael ysbwriel. Mae gweithredoedd o’r fath yn gwneud i’n hardaloedd edrych yn flêr, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, yn llygru’r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt.

“Dwi’n atgoffa pobl fod cyfrifoldeb arnynt i wirio a yw rhywun sy’n gwaredu sbwriel neu glirio tŷ ar eu rhan gyda trwydded i wneud hynny. Mae’r rhan helaethaf o gwmnïau sy’n darparu’r math yma o wasanaeth yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol a chyfreithlon."

 Ychwanegodd Steven Edwards, Rheolwr Gwasanaeth Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o’r cyhoedd a gymerodd yr amser i adrodd y digwyddiadau hyn. 

"Gall unrhyw un roi gwybod i’r Cyngor am droseddau amgylcheddol drwy’r wefan neu drwy ap apGwynedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.