Dyfodol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn y fantol?
15/11/2024
Dyfodol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn y fantol?
Mae undeb myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru - UMCA yn Aberystwyth - wedi dweud wrth Newyddion S4C bod ei ddyfodol yn y fantol.
Daw hyn wrth i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ehangach ddweud eu bod yn gorfod ystyried cael gwared ar un o bum swyddog etholedig llawn amser oherwydd toriadau ariannol yn y Brifysgol.
Mae UMCA yn rhan o’r Undeb Myfyrwyr ehangach yn y brifysgol, gyda Llywydd UMCA yn un o bum swyddog sabothol yr Undeb.
Mae UMCA yn dweud bod rhai o fewn yr Undeb yn ehangach yn cwestiynu’r angen am Lywydd Cymraeg.
Yn ôl Undeb Prifysgol Aberystwyth, nid oes bwriad newid unrhyw un o’r rolau undebol yn y brifysgol heddiw.
Wrth drafod y bygythiad i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, dywedodd Nanw Maelor, Cadeirydd UMCA: “Mae o’n ein corddi ni fel myfyrwyr Cymraeg ein bod hyd heddiw yn parhau i wynebu’r un bygythiadau a frwydrwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf.
“Mae pwyllgor UMCA yn gwrthod dilysrwydd y broses frysiog yma.
“Rydyn ni’n credu mai o’r gwraidd i fyny y mae undebau yn bodoli ac mai’r unig fyfyrwyr a ddylai fod â hawl dros barhad swydd sabothol Llywydd UMCA yw’r myfyrwyr y mae’n eu gwasanaethu.”
'Dim newid'
Yn ôl Undeb Prifysgol Aberystwyth mae nhw’n dweud nad oes unrhyw newid i’r rolau ar hyn o bryd.
“Mae Undeb Aber wedi dechrau ar broses o ymgynghoriad ar pob un o’r rolau swyddogion y dyfodol (yn union fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol) o ganlyniad i polisi, ma ‘na llawer o bethau i ystyried a dydi’r ymgynghoriad ddim yn agos o gwbl at unrhyw ganlyniad,” meddai llefarydd.
“Bydd mwy o ymgynghori ac ystyriaeth i’w gynnal…a prosesau democrataidd i’w dilyn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.”
Nos Wener roedd yna griw o ryw 30 o fyfyrwyr wedi ymgynnull y tu allan i adeilad y brifysgol.
Wrth ymateb i'r bygythiad i UMCA, dywedodd Swyn Dafydd, sy'n fyfyrwraig yn y dref:
“Ni ishe byw drwy gyfrwng y Gymraeg. Hebddo UMCA a’r llywydd fydde ddim hanner y digwyddiadau yn cael eu cynnal wedyn.
“Yn fy marn i mae angen iddo fod yn swydd sabothol llawn-amser oherwydd wrth astudio fydde ddim yr amser gyda chi i roi mewn i’r swydd.”
'Mwy na sefydliad'
Yn ôl Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru mae UMCA yn fwy na sefydliad sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn unig.
“Maen nhw hefyd yn sicrhau llais o fewn y brifysgol academia, gwasanaethau cefnogol gan sicrhau bod y ddarpariaeth yna ac i fod yn llais i fyfyrwyr,” meddai Deio Owen.
“Pan ma gyda chi swyddog sy’n gweithio’n benodol ar y Gymraeg mae’r effaith yna i wled bron yn syth ar y gymuned Gymraeg o fewn y brifysgol ac yn ehangah.”
Fe ddaw hyn ar ddiwedd wythnos gythryblus i Addysg Uwch yng Ngheredigion gydag ansicrwydd ynghylch campws Llambed, Prifysgol Y Drindod.
Problemau ehangach
Ond yn ôl economegydd sy’n arbenigo ar addysg uwch dydy’r sefyllfa ddim yn unigrwy i Aberystwyth.
“Mae’n glir bod 'na broblemau ariannol anferthol yn y sector,” meddai Dylan Jones Evans.
“Da ni wedi gweld prifysgol fwyaf Cymru – Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod nhw am wneud colled o dros £30 miliwn eleni, Prifysgol De Cymru am wneud colledion o dros £20m mae na broblemau yn Aberystwyth, ma na broblemau ym Mangor.
“Dwi meddwl fod hi yn amser i’r gwleidyddion tynnu eu pennau allan o’r tywod ac edrych i weld beth da ni am wneud yng Nghymru.
“Oherwydd ar ôl datganoli, y llywodraeth yng Nghymru sydd yn gyfrfiol am ddyfodol addysg uwch a pha effaith ma hyn am gael ar yr economi yng Nghymru”
Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Wener fe ddywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru bod y llywodraeth yn pwyso a mesur y sefyllfa.
"Ni'n mynd trwy'r cyllid i ystyried be sy'n digwydd dros y flwyddyn nesa," meddai.
"Ni eisoes wedi codi ffioedd myfyrwyr eleni, wrth gwrs mae'r trafodaethau ynglyn ag os byddwn ni'n neud hynny yn y dyfodol yn mynd i barhau."
Prif lun: Catrin Dafydd, Llywydd UMCA rhwng 2003-2004