Ffermio: Keir Starmer yn amddiffyn ei newidiadau i dreth etifeddiant
Mae Syr Keir Starmer wedi amddiffyn y newidiadau i dreth etifeddiant ar ffermydd unwaith eto, gan fynnu na fydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn cael eu heffeithio a bod angen i’r Llywodraeth “barhau i egluro” sut y bydd y drefn newydd yn gweithio.
Fe wnaeth ei sylwadau wrth ymweld â gogledd Cymru brynhawn dydd Gwener.
Mae cryn gecru gwleidyddol wedi bod am drethi ffermydd sydd dros £1 miliwn mewn gwerth, a hynny wedi’i waethygu gan yr ansicrwydd am y ffigurau y gwnaeth y Canghellor Rachel Reeves eu defnyddio fel tystiolaeth o'i phenderfyniad.
Mae data’r Trysorlys yn dangos na fydd tua 75% o ffermwyr yn talu dim mewn treth etifeddiant o ganlyniad i’r newidiadau dadleuol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb fis diwethaf.
Ond mae ffermwyr wedi herio’r ffigurau, gan gyfeirio yn lle hynny at ddata gan Defra sy’n awgrymu bod 66% o fusnesau fferm yn werth mwy na’r trothwy o £1 miliwn y bydd yn rhaid talu treth etifeddiant arno nawr.
'Pryderus'
Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Gwener: “Rwy’n gwybod bod rhai ffermwyr yn bryderus am y rheolau treth etifeddiant a gyflwynwyd gennym bythefnos yn ôl.
“Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud am hynny yw, unwaith y byddwch chi’n ychwanegu’r £1 miliwn ar gyfer tir y fferm at yr £1 miliwn sydd wedi’i eithrio ar gyfer eich cymar priod, i’r rhan fwyaf o gyplau sydd â fferm sydd eisiau trosglwyddo i’w plant, mae’n £3 miliwn cyn i neb dalu ceiniog mewn treth etifeddiant.
“A dyna pam na fydd y mwyafrif helaeth o ffermydd yn cael eu heffeithio o gwbl gan hyn. Ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n lleisio'r neges yma.”
Ychwanegodd: “Felly does ond angen i ni barhau i egluro sut mae hynny'n gweithio, oherwydd dwi'n gwybod ei fod wedi achosi peth pryder.”
Mae’r newidiadau i dreth etifeddiant ar gyfer busnesau ffermio yn y Gyllideb yn cyfyngu’r rhyddhad o 100% ar gyfer ffermydd i’r £1 miliwn cyntaf yn unig o eiddo amaethyddol a busnes wedi eu cyfuno.
Ar gyfer unrhyw beth dros hynny, bydd tirfeddianwyr yn talu cyfradd dreth o 20%, yn hytrach na’r gyfradd dreth etifeddiant safonol o 40% sy'n gymwys i dir ac eiddo arall.
Ddydd Sadwrn fe fydd ffermwyr gogledd Cymru yn ymgynnull ar dractorau ar gyfer protest yn erbyn y newidiadau yn Llandudno i gyd-fynd â Chynhadledd Llafur Cymru.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn cynnal lobi o ASau ddydd Mawrth fel rhan o ymdrechion i orfodi’r Llywodraeth i ailfeddwl ac mae rali ar wahân yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod ar Whitehall, gyferbyn â Downing Street.