Newyddion S4C

Teulu milwr o'r Rhondda'n credu y gallai ei hunanladdiad fod wedi cael ei atal

15/11/2024
Nicholas “Nicki” Hart

Mae teulu milwr o dde Cymru a gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl crogi ei hun mewn canolfan filwrol yn credu y “gallai ei farwolaeth fod wedi cael ei hatal.” 

Cafwyd hyd i Nicholas “Nicki” Hart, 33, a wasanaethodd gyda 4ydd Bataliwn Catrawd Frenhinol yr Alban, yn farw yng ngariswn Catterick, Gogledd Sir Efrog, ym mis Chwefror 2022.

Roedd gan y tad i dri o blant, oedd yn wreiddiol o Gwm Rhondda, hanes o broblemau iechyd meddwl a lleisiodd ei deulu bryderon am ei ddefnydd o alcohol.

Ar ddiwedd cwest pythefnos o hyd yn Northallerton, dywedodd y crwner cynorthwyol Jonathan Leach fod rhai cyfleoedd wedi’u colli i gefnogi Mr Hart – gan gynnwys ymdrechion blaenorol i gyflawni hunanladdiad nad oedd yn amlwg ar unwaith i bobl oedd yn edrych ar ei gofnodion meddygol – ond nad oedd y rhain wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ei farwolaeth. 

Cofnodwyd casgliad o hunanladdiad gan y crwner.

Yn dilyn y cwest, dywedodd gweddw Highlander Hart, Sara, 38, nad oedd clywed y dystiolaeth “yn ddim llai na thrawmatig”.

Mewn datganiad a ryddhawyd gan ei chyfreithiwr o gwmni Irwin Mitchell, dywedodd Mrs Hart: “Mae bron yn amhosibl disgrifio sut roeddwn i’n teimlo pan ddywedwyd wrthyf fod Nicki wedi marw. 

"Nid oes diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn meddwl amdano.

“Roedd ganddo gymaint i fyw amdano a byddaf bob amser yn cael trafferth derbyn nad yw bellach yma gyda mi yn gwylio ein plant yn tyfu i fyny.

“Byddwn i’n rhoi unrhyw beth i ddod â Nicki yn ôl, ond dwi’n gwybod na all hynny ddigwydd. 

"Er bod clywed popeth yn y cwest wedi bod yn ddim llai na thrawmatig, mae rhai cyfleoedd a gollwyd wedi'u nodi. Rydym ni fel teulu yn parhau i fod o’r farn y gallai ei farwolaeth fod wedi cael ei hatal pe bai wedi cael triniaeth a chymorth cynharach.”

Clywodd y cwest fod Mr Hart wedi bod yn yfed yn drwm ar ôl marwolaeth ei ffrind, Ryan Mackenzie, yn y garsiwn fis Awst blaenorol.

Dywedodd y cyn-filwr David Twiname wrth y cwest bod alcohol wedi dod yn “fecanwaith ymdopi” ac y byddai Nicholas Hart yn prynu cwrw a gwin o siop leol ac yn mynd ag ef yn ôl i’w lety.

Dywedodd y tyst iddo wneud penderfyniad ymwybodol i fod gyda Nicholas Hart gan ei fod yn poeni am iechyd meddwl ei ffrind.

Llun: PA/Teulu

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.