Newyddion S4C

Cronfa newydd i helpu gweithwyr dur sydd wedi colli eu swyddi

16/11/2024
Gwaith dur Port Talbot

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa newydd i helpu gweithwyr dur sydd wedi colli eu swyddi i ddechrau busnesau.

Nod y gronfa yw helpu gweithwyr dur Port Talbot sydd wedi'u heffeithio gan y toriadau i swyddi ar safle Tata Steel.

Fe gyhoeddodd Tata Steel ym mis Medi eu bod wedi diffodd y ffwrnais chwyth olaf yng ngwaith dur Port Talbot.

Roedd disgwyl i dros 2,000 o swyddi gael eu colli o ganlyniad i'r newid i ddefnyddio system gynhyrchu arc trydan.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, y bydd bwrdd pontio a sefydlwyd yn dilyn y toriadau i swyddi yn darparu £13 miliwn o gymorth.

Bydd yn darparu grantiau o hyd at £10,000 i weithwyr, teuluoedd a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan gau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd dau gynllun cymorth arall yn cael eu lansio i helpu cwmnïau yn yr ardal, gyda grantiau o £2,500-£250,000 ar gael.

'Cefnogaeth hanfodol'

“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i weithwyr ym Mhort Talbot a’u teuluoedd,” meddai Jo Stevens.  

“Bydd gan lawer ohonyn nhw ddyheadau i sefydlu eu busnesau eu hunain, neu ddod yn hunangyflogedig – bydd y £13 miliwn a ryddhawyd heddiw yn darparu cefnogaeth hanfodol iddynt wireddu eu cynlluniau.”

Ychwanegodd: “Fe ddywedon ni y byddem ni’n cefnogi gweithwyr a busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y trawsnewid ym Mhort Talbot, ac rydyn ni’n gwneud hynny gyda mwy na £26 miliwn wedi’i gyhoeddi ers mis Gorffennaf.”

Yn ei anterth yn ystod y 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi yng ngwaith dur Port Talbot.

Ond mae'r safle wedi mynd trwy sawl cyfnod o newid, sydd weithiau wedi arwain at streiciau a chwtogi ar swyddi.

Prynodd y cwmni Indiaidd Tata y gwaith dur yn 2007.

George Thompson / PA 

 

 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.