Pedwar wedi marw a phump wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad
Mae pedwar o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a thacsi yn Bolton, gogledd Lloegr yn ystod oriau mân fore Sul.
Tarodd car Seat Leon coch yn erbyn tacsi Citroen C4 Picasso ar Wigan Road yn y dref, yn ôl Heddlu Manceinion.
Bu farw'r gyrrwr a dau deithiwr yn y Seat, yn ogystal â gyrrwr y Citroen.
Y gred yw mai tri dyn ifanc 18 ac 19 oed oedd yn y Seat a bod gyrrwr y Citroen yn ddyn yn ei 50au, yn ôl yr heddlu.
Mae pump teithiwr arall wedi eu hanafu ac wedi eu cludo i ysbyty gerllaw. .
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion ddydd Sul: “Tua 00.50 y bore 'ma, fe aeth tair injan dân a chriw i safle gwrthdrawiad rhwng tacsi a char ar Wigan Road, Bolton.
“Cyhaeddodd y diffoddwyr tân yn gyflym, gan sicrhau fod yr ardal yn ddiogel cyn tynnu pobl oedd yn gaeth yn y cerbydau oddi yno, ac yna eu trosglwyddo i ofal Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Orllewin Lloegr.
“Roedd Heddlu Manceinion yn bresennol er mwyn cau'r ffordd. Roedd ein criwiau yno am oddeutu dwy awr.”
Mae Heddlu Manceinion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Ayyub Patel fod y “y newyddion trasig wedi llorio'r gymuned,” gan ychwanegu bod angen i'r awdurdodau gael y cyfle bellach i gwblhau eu hymchwiliad.