'Amhosib cael gafael ar unrhyw un': Pryder yng Nghymru wedi marwolaethau yn Iran

'Amhosib cael gafael ar unrhyw un': Pryder yng Nghymru wedi marwolaethau yn Iran

Mae cannoedd o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn ystod protestiadau yn erbyn y Llywodraeth yn Iran, yn ôl adroddiadau.

Mae fideos sydd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn dangos pobl ar strydoedd dinasoedd Iran, gydag adeiladau a cherbydau yn cael eu rhoi ar dân

Mewn ymateb i'r sefyllfa, sydd wedi gwaethygu dros y penwythnos, mae Llywodraeth Iran wedi gosod gwaharddiad ar systemau cyfathrebu'r wlad.

Dywedodd twrnai cyffredinol Iran, Mohammad Movahedi Azad, y byddai unrhyw un sy'n protestio yn "elyn i Dduw", trosedd sy'n cario'r gosb eithaf.

Mae o leiaf 62 o bobl wedi eu lladd a 2,300 wedi eu harestio ers i'r protestiadau ddechrau ar 28 Rhagfyr, yn ôl Asiantaeth Newyddion Human Rights Activists.

Cafodd y protestiadau eu sbarduno gan chwyddiant cynyddol, ac maent yn cael eu cynnal mewn mwy na 100 o ddinasoedd a threfi ar draws Iran. 

Erbyn hyn mae'r protestwyr yn galw am ddod ag arweinyddiaeth Goruchaf Arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei, i ben.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU, Yvette Cooper, na ddylai’r rhai sy’n siarad yn erbyn ei lywodraeth wynebu "bygythiad trais".

"Mae’n cymryd dewrder go iawn i siarad mewn system awdurdodaidd, yn enwedig i fenywod ifanc, ond ni ddylai fod angen dewrder i gael eich clywed," meddai.

"Dyma hawliau sylfaenol: rhyddid barn; cynulliad heddychlon; ac ni ddylai defnyddio'r hawliau hynny byth ddod gyda bygythiad o drais na dial.

"Dyna pam y gwnaeth y DU, Ffrainc a’r Almaen y datganiad a wnaethom, ac rydym yn annog awdurdodau Iran i wrando."

Cyhoeddodd arweinwyr y tair gwlad ddatganiad ar y cyd ddydd Gwener yn galw ar awdurdodau Iran i bwyllo.

'Dim syniad be sy'n mynd ymlaen'

Mae Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd yn poeni am ei theulu sy'n byw yn Iran.

"Ar hyn o bryd mae blackout yn Iran, mae'r llywodraeth wedi neud blackout dros y wlad i gyd felly mae'n amhosib cael gafael ar unrhyw un sydd yn y wlad nawr," meddai wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Sadwrn.

"A mae hwnna'n rili scary, felly fi ddim 'di siarad gyda'r teulu yn ddiweddar, felly sydd gen i ddim syniad be' sy'n mynd ymlaen." 

Fe aeth ymlaen i ddweud bod ei theulu yn Tehran lle mae'r rhan fwyaf o'r protestiadau yn digwydd.

"Maen nhw'n gwybod yn anffodus i gael newid mae'n rhaid iddyn nhw sefyll i fyny, mae'n rhaid iddyn nhw fod allan ar y strydoedd," meddai.

"Fi jyst yn gobeithio fydd mwy o bobl ddim yn colli eu bywydau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.