Craig Bellamy yn disgwyl 'her anodd' wrth i Gymru wynebu Twrci
Mae Craig Bellamy yn disgwyl gornest anodd yn erbyn Twrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sadwrn.
Dyma gêm olaf Cymru oddi cartref yn y gystadleuaeth cyn wynebu Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Maen nhw wedi ennill ddwywaith yn erbyn Montenegro a chael gêm gyfartal yng Ngwlad yr Iâ.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1857405330860192198
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd Bellamy ei fod yn disgwyl gêm anodd, ond yn dweud bod angen i Gymru guro timoedd fel Twrci os ydyn nhw am gyrraedd Cwpan y Byd 2026.
"Bydd hon yn her dda, roedd y gêm gyntaf yn erbyn Twrci yn bositif i ni yn erbyn tîm cryf a rheolwr da iawn," meddai.
"Fe fydd hon yn gêm anodd mewn gwlad sydd yn angerddol dros bêl-droed ac mae'r awyrgylch yn ychwanegu at hynny ac mae rhaid i ni wneud y mwyaf ohono.
"Os ydyn ni am gymhwyso mae angen i ni ddod i lefydd fel hyn. Does dim llwybr hawdd i gyrraedd Cwpan y Byd, a dydyn ni ddim eisiau llwybr hawdd a ni ddylai fod llwybr hawdd chwaith.
"Fe fyddwn ni'n dysgu llawer am ein hunain..."
Mae Cymru yn ail yn y grŵp, dau bwynt tu ôl i'w gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn.
Pe bai tîm Craig Bellamy yn ennill yn Kayseri ac yna adref nos Fawrth, nhw fydd enillwyr y grŵp ac yn ennill dyrchafiad i Gynghrair A.
Fe allwch chi wylio Cymru v Twrci ar SC4, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube Sgorio am 16:30.
Llun: Asiantaeth Huw Evans