Davina McCall i dderbyn llawdriniaeth ar diwmor yr ymennydd
Mae Davina McCall wedi dweud y bydd yn derbyn llawdriniaeth ar ei hymennydd ar ôl i ddoctoriaid ganfod tiwmor arno.
Er fod y tiwmor yn un mawr a phrin, nid yw ar hyn o bryd yn un sydd yn peryglu ei bywyd, meddai.
Dywedodd y cyflwynydd teledu, sy’n 57 oed, mewn fideo ar gyfrwng Instagram fod y tiwmor yn goden coloid (colloid cyst), sydd yn “brin iawn”.
Dywedodd ei bod wedi ei ddarganfod ychydig fisoedd yn ôl ar ôl i gwmni gynnig archwiliad iechyd iddi hi wedi iddi gynnal sgwrs am yn menopôs.
Roedd canlyniad yr archwiliad yn sioc, meddai McCall, ar ôl esbonio bod ganddi hi diwmor.
Dywedodd Ms McCall: “Fe roddais fy mhen yn y tywod am gyfnod, ac fe wnes i weld sawl niwro-lawfeddyg a chefais sawl safbwynt. Fe sylweddolais fod yn rhaid i mi dynnu fe mas.”
Gan ei ddisgrifio fel tiwmor mawr, dywedodd ei fod â thrwch o 14mm, sydd “angen dod allan, oherwydd os mae’n tyfu, bydde hynny’n beth drwg.”
Fe ychwanegodd y byddai’n rhaid iddi gael triniaeth craniotomy i dynnu’r tiwmor allan.
“Rydw i mewn hwyliau da,” meddai.
“Dwi’n iawn. Dwi wedi bod i fyny ac i lawr. Yn amlwg, da ni wedi bod drwy lot.”
Mae Ms McCall yn disgwyl y bydd yn yr ysbyty am “o gwmpas naw diwrnod” wrth iddi wella o’r driniaeth.
Llun: PA