'Ffars?' Mike Tyson yn wynebu Jake Paul yn y sgwâr bocsio
Fe fydd cyn pencampwr y byd Mike Tyson yn bocsio yn erbyn y seren YouTube Jake Paul, sydd 31 blwyddyn yn iau nag ef, yn y sgwâr bocsio fore Sadwrn.
Fe wnaeth y dylanwadwr Americanaidd Paul, sydd yn 27 oed, herio 'Iron Mike', sydd bellach yn 58 mlwydd oed, i'w ymladd yn 2023.
Bydd yr ornest yn cael ei ffrydio'n fyw ar Netflix tua 01:00 fore Sadwrn.
Roedd Tyson wedi ymddeol o'r byd bocsio yn 2005 wedi iddo ennill 50 o ornestau. Nid oedd Jake Paul wedi cael ei eni pan oedd yn bencampwr y byd yn 1986.
Mae Owain Machno Lloyd, bocsiwr amatur a rheolwr ffitrwydd yng Nghaerdydd yn dweud bod yr ornest wedi hollti barn.
“Dwi yn meddwl bod o’n bach o ffars, ma' Mike Tyson yn 58 a Jake Paul yn 27," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Enillodd Mike Tyson y World Title yn 1986 a’i golli yn 1990 a doedd Jake Paul heb hyn yn oed cael ei geni,"
“Mae’n bryder bod dyn oed Mike Tyson yn bocsio. Does dim llawer o focswyr yn eu 30au felly mae 58 yn oed mawr i fod yn y ring bocsio yndi?"
Yr unig bocsiwr proffesiynol mae Jake Paul wedi ei wynebu yw Tommy Fury, sydd yn frawd i Tyson Fury. Ond mae wedi bocsio gwrtheynebwyr o gampau ymladd eraill fel Nate Diaz o'r UFC gynt.