Newyddion S4C

Cyhoeddi enw merch 17 oed a fu farw ar draffordd

14/11/2024
M5 ger Taunton

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ferch 17 oed a fu farw ar draffordd, ar ôl iddi redeg allan o gar yr heddlu

Cafodd Tamzin Hall o Wellington, Gwlad yr Haf ei tharo gan gar, toc ar ôl 23:00 nos Lun.    

Roedd hi'n cael ei chludo i'r ddalfa, pan ddaeth cerbyd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf i stop tra'n teithio ar yr M5 ger Taunton.  

Cyrhaeddodd parafeddygon o fewn munudau, ond bu farw Tamzin Hall yn y fan a'r lle.  

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), sydd bellach yn cynnal ymchwiliad.  

Dywedodd llefarydd  ar ran yr heddlu bod eu meddyliau gyda perthnasau Tamzin Hall. 

"Mae ei theulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon," meddai'r llefarydd. 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.