Neil Foden: Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd
Neil Foden: Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd
Gall rhaglen Newyddion S4C ddatgelu fod Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd yn ymwneud â’r cyn-bennaeth ysgol a’r pidoffeil, Neil Foden.
Daeth cadarnhad gan y llu bod yr honiadau’n ymwneud â Foden yn meithrin perthynas amhriodol a chamdrin rhywiol.
Ers i raglen BBC Wales Investigates gael ei darlledu, ma’r heddlu yn dweud fod ganddyn nhw ddau ymchwiliad byw ar waith. Mae’r honiadau mewn cysylltiad â dioddefwyr oedd yn “blant ar adeg y drosedd.” Cadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad ydyn nhw wedi derbyn honiadau newydd gan Heddlu’r Gogledd.
Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf ar ôl camdrin 4 merch yn rhywiol dros gyfnod o 4 blynedd.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i weld pa wersi sydd i’w dysgu. Ond, mae nifer yn poeni fod adolygiad o’r fath yn gyfyng ac mae yna alwadau am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau Cyngor Gwynedd.
Roedd Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd. Mae rhaglen Newyddion S4C wedi siarad â chyn-aelod o staff yn Ysgol Friars sy’n dweud fod “cyfrinachau” yn “taflu cysgod” dros ddyfodol yr ysgol.
Mae Ana - nid ei henw iawn – yn poeni nad ydi rhai ffeithiau sy’n gysylltiedig ag achos Neil Foden yn cael eu rhannu â’r awdurdodau. Yn ôl Ana mae “methiannau mawr” wedi bod o fewn arweinyddiaeth yr ysgol dros y blynyddoedd, ac mae hi’n cwestiynu faint o fanylion mae’r panel Adolygiad Ymarfer Plant wedi ei gael am sut oedd yr ysgol yn cael ei rhedeg.
“Ma’ ’na bobol yna (yn yr ysgol) sydd efo gwybodaeth” meddai, “a’r teimlad sy’ gen i ydi dydyn nhw ddim am ddŵad ymlaen.”
Brian Jones yw cadeirydd newydd llywodraethwyr Ysgol Friars. Dywedodd fod “tîm yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi bod yn yr ysgol ar sawl achlysur ac wedi rhoi cyfle i staff ymweld â hwy i rannu unrhyw bryderon neu wybodaeth all fod o ddefnydd iddynt. ”
“Mae ’na bethau wedi digwydd yn yr ysgol sydd angen dod allan.”
Dydi Ana ddim eisiau datgelu ei henw go iawn oherwydd ei bod yn poeni am ymateb anffafriol posib. Mae Newyddion S4C wedi clywed gan nifer o staff presennol a chyn-staff yr ysgol sydd â sylwadau tebyg i Ana.
Mae hi’n dweud fod yna ddiwylliant “ataliol, gwenwynig, brawychus a bwlio” yn yr ysgol o dan Foden.
Mae hi’n galw am ymchwiliad cyhoeddus er mwyn i bobol “ddod ymlaen a gorfod rhoi gwybodaeth”. Mae Ana yn credu fod gan nifer o bobol sy’n gweithio yn Ysgol Friars fanylion a allai roi cyd-destun i ddigwyddiadau o’r gorffennol. “Mae yna bethau wedi digwydd yn yr ysgol sydd angen dod allan… Mae ’na rai aelodau o staff yn gwybod mwy na maen nhw’n ei dd'eud.”
Dim digon o gefnogaeth i staff
Dywedodd Ana nad oedd digon o gefnogaeth i staff ar ôl i droseddau Foden ddod i’r amlwg.
“Mae staff wedi ’neud y gora i’r plant heb fawr o gefnogaeth,” meddai.
Y bore ar ôl i Foden gael ei arestio, mae Ana yn cofio cyfarfod â staff arbennig. Cafwyd rhybudd clir y dylai pawb barhau â’u gwaith fel yr arfer ac i “beidio trafod y mater efo neb,” meddai.
“Roedd disgwyl i ni gario ymlaen, pan mewn gwirionedd, oll roeddan ni isio neud oedd cael dod at ein gilydd a trafod yr hyn roeddan ni newydd glywed.”
“Roedd hi'n sefyllfa erchyll.”
Roedd cwnselydd ar gael, ond yn ôl Ana, roedd rhai yn ei chael hi’n anodd gofyn am help. “Doedd gwneud cais am apwyntiad ddim yn ddi-enw,” meddai, a nifer o staff yn teimlo’n “anghyfforddus” fod aelodau eraill o staff yn gwybod pwy oedd yn gweld y cwnselydd.
Mae ffynonellau eraill o fewn yr ysgol wedi dweud wrth Newyddion S4C nad oes ganddyn nhw “ffydd” yn rhai o reolwyr presennol yr ysgol.
Rydyn ni’n deall fod o leiaf 10 o athrawon ar absenoldeb tymor hir o’r ysgol, gyda ffynonellau sy’n cadw golwg ar y niferoedd yn dweud fod “18 absenoldeb bob dydd” ar gyfartaledd ers Hydref 2024. Mae rhai absenoldebau oherwydd salwch tymor byr, ond mae nifer ohonyn nhw, meddai’r ffynonellau; yn ei chael hi’n anodd ac yn teimlo’r straen oherwydd digwyddiadau “digynsail” y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Brian Jones, fod “155 o unigolion yn gweithio yn Ysgol Friars, ac yn naturiol mae pob un wedi cael ei effeithio gan yr hyn sydd wedi dod i'r golwg o ganlyniad i weithgareddau erchyll Neil Foden. ”
“Mae pobl yn delio efo straen o'r natur yma mewn ffyrdd gwahanol, ac mewn rhai achosion mae wedi arwain at absenoldebau.”
Dywedodd fod y corff llywodraethu newydd “yn ymrwymiedig i wneud eu gorau glas dros les disgyblion a staff yr ysgol. ”
Ond mae Ana yn feirniadol o Gyngor Gwynedd am beidio cymryd rheolaeth lawn o’r ysgol ar ôl i Foden gael ei gyhuddo, ac yn dweud y dylai’r awdurdod fod wedi ymateb “yn lot cynt na be naethon nhw.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod y sefyllfa’n “ddigynsail o heriol i Ysgol Friars ac rydym yn cydnabod pa mor anodd mae hi wedi bod i’r holl ddisgyblion a staff. Mae swyddogion o’r Adran Addysg wedi bod yn cydweithio gyda’r staff dysgu, staff cefnogol a llywodraethwyr yr ysgol i adfer a sefydlogi’r sefyllfa, er budd holl ddisgyblion yr ysgol. ”
Car Foden
Yn ystod achos llys Foden, mi ddaeth i’r amlwg ei fod o yn aml yn camdrin plant yn ei gar.
Clywodd y rheithgor fod cydweithwyr wedi ei weld o’n mynd i’w gar efo un o’r dioddefwyr, a rhoi ei freichiau amdani a’i chofleidio. Hefyd, mi ddywedodd cyn-ddisgybl, sy’n honni i Foden feithrin perthynas amhriodol gyda hi am bum mlynedd fod athrawon a staff eraill yn yr ysgol wedi ei gweld hi yn mynd i mewn i'w gar ar ei phen ei hun sawl tro.
Mae Ana yn honni fod nifer o fewn yr ysgol yn ymwybodol fod rhai merched yn cael “lot o sylw gan Foden”.
“Oeddan ni’n gwbod fel aelodau o staff doeddan i ddim i fod i gario plant yn ein ceir, felly pam oedd o’n wahanol, a pam nath neb gwestiynu hynna?”
Llechen Lân
A hitha’ wedi gadael yr ysgol erbyn hyn, mae Ana yn teimlo fod ganddi’r rhyddid i siarad yn gyhoeddus am sut oedd Ysgol Friars yn cael ei rhedeg. “Ma‘ hyn i gyd wedi cael effaith arna i. Bob dydd, dwi’n meddwl am y merched ifanc wnaeth Foden gamdrin.”
Er bod Foden wedi gadael yr ysgol ers Medi 2023, mae hi’n credu yn “bendant fod cyfrinachau yn taflu cysgod dros yr ysgol.”
“Swn i’n deud fod yr uwch dîm wedi cael eu mowldio i mewn i sut oedd o isio nhw fihafio.”
Aeth ati i ddweud: “Mae hyn yn fwy na Foden ei hun. Mi oedd o wedi neud yn siwr ei fod o wedi cael ei amgylchynu gan bobol o’dd ddim yn mynd ei gwestiynu fo.”
“Mae’r uwch dîm rheoli dal yno a tra fyddan nhw, dydi petha yn bendant ddim yn mynd i newid.”
“Mae angen llechan lân yn yr ysgol a cychwyn o’r cychwyn eto.”
Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr na allai wneud sylw am faterion yn ymwneud â staff, gan ychwanegu y byddai’r corff yn delio efo “unrhyw honiad” yn unol a'i bolisiau. Nodwn fod y Cyngor wedi cynghori a chefnogi’r llywodraethwyr a’r ysgol drwy gydol yr amser heriol diweddar. ”
“Ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach hyd nes mae’r holl ymchwiliadau – gan gynnwys yr Adolygiad Ymarfer Plant statudol – wedi eu cwblhau. ”
Adolygiad Ymarfer Plant
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE. Mae disgwyl y casgliadau yn y gwanwyn a bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ond, mae yna bryderon ynglŷn â’r broses gyfathrebu ac amseru’r ymatebion.
Mae’r panel yn dweud y bydd y tîm adolygu yn cysylltu’n uniongyrchol gydag unigolion os ydyn nhw angen cyfarfod neu drafod unrhyw beth ymhellach.
Mae rhai o fewn cymuned Ysgol Friars yn poeni am breifatrwydd a’r ymwybyddiaeth cyffredinol o broses yr adolygiad. Mae rhieni yn honni nad ydyn nhw wedi cael manylion cyswllt uniongyrchol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Mi oedd llythyr at rieni Ysgol Friars fis Gorffennaf 2024 yn nodi y dylid anfon gwybodaeth at y panel drwy law y pennaeth neu at aelod o staff maen nhw yn “ymddiried” ynddyn nhw. Rydyn ni’n deall nad oes yna gyfathrebu pellach wedi bod gyda rhieni.
Fe ddywedodd rhai rheini eu bod wedi eu “synnu” ac yn teimlo fod angen i unrhyw wybodaeth gael ei anfon yn uniongyrchol at y panel, nid drwy staff yr ysgol a dywedodd nifer eu bod wedi eu “drysu” am yr adolygiad a’u gwaith.
Ma’r tîm adolygu yn dweud y byddan nhw’n gweithio gyda’r ysgol ynglŷn ag unrhyw ddiweddariadau.
Arweinyddiaeth Ysgol Friars
Does gan Ysgol Friars ddim pennaeth parhaol ar hyn o bryd.
Mae David Healy, oedd yn ddirprwy bennaeth o dan Neil Foden, wedi bod yn gwneud y swydd fel pennaeth dros dros ers Medi 2023.
Fe gadarnhaodd cadeirydd y llywodraethwyr fod y swydd wedi ei “hysbysebu dair gwaith ond ni fu modd penodi yn barhaol hyd yma.”
Dywedodd mai “un o'r prif faterion sydd wedi bod dan sylw dros y misoedd diwethaf ydy sicrhau arweinyddiaeth gadarn a sefydlog, sydd gyda'r weledigaeth i droi'r gornel a symud yr ysgol yn ei blaen dros y blynyddoedd nesaf. ”
“Mae trefniadau i benodi i’r rôl ar sail dros dro ar y gweill. ”
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod recriwtio pennaeth parhaol wedi bod yn “heriol” a bod angen cynllun newydd. Gwnaed penderfyniad i recriwtio pennaeth dros dro er mwyn “sicrhau sefydlogrwydd” i’r ysgol.
Rydyn ni yn cael ar ddeall fod Mr Healy wedi gwneud cais am y swydd yn barhaol, ond heb fod yn llwyddiannus.
Cynllun Adfer
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd ‘Cynllun Adfer’ swyddogol yn digwydd i gydnabod pob adolygiad ac ymchwiliad ac i adnabod pa gamau pellach sydd angen eu cymryd.
Ma’r awdurdod lleol yn dweud bod camau i adolygu prosesau mewnol yn cynnwys:
Bargyfreithiwr arbenigol annibynnol i gynnal ymchwiliad penodol i’r digwyddiadau yn 2019 a gyfeiriwyd atynt yn ystod achos llys Neil Foden
Mae Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor wrthi’n sefydlu ymchwiliad penodol i edrych ar drefniadau Diogelu.
Adolygiad yn cael ei gynnal o adroddiad gan Bwyllgor Cwynion Annibynnol yn 2019 i faterion disgyblaeth yn Ysgol Friars er mwyn canfod os yw’r holl argymhellion wedi eu gweithredu.
Mae’r Cyngor yn comisiynu adolygiad o sut mae’r Cyngor yn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod yn “sicrhau na fyddwn am eiliad yn anghofio am y rhai pwysicaf yng nghanol hyn, sef y merched a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn eu hysgol, a dyna pam ein bod yn mynd drwy’r prosesau a threfniadau hyn.”