Newyddion S4C

Clwb pêl-droed Caernarfon yn achubiaeth i'w Cadeirydd sy'n cael dialysis

Sgorio

Clwb pêl-droed Caernarfon yn achubiaeth i'w Cadeirydd sy'n cael dialysis

Mae Cadeirydd clwb pêl-droed Caernarfon wedi dweud fod ei rôl yno wedi bod yn achubiaeth iddo yn ystod ei frwydr â chlefyd yr aren. 

Ers tair blynedd, mae Paul Evans wedi cael triniaethau dialysis.

Fe gafodd drawsblaniad aren gan ei dad yn 2009, “ond fe ‘nath hwnna farw allan tair blynedd yn ôl,” meddai. 

Mae e wedi ei gysylltu i beiriant dialysis yn Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog am bedair awr y dydd, deirgwaith yr wythnos – ac mae hynny’n brofiad “torcalonnus,” meddai, 

“Mae gorwadd mewn ystafell am bedair awr a ddim yn cael symud eich braich yn brofiad heriol, boring ac ar adegau, mae’n rhaid fi ddweud, mae’n torcalonnus hefyd.” 

Ond fel un o ffigyrau mwyaf blaenllaw’r ‘Cofi Army’, mae clwb pêl-droed Caernarfon wedi bod yn ddihangfa iddo yn ystod cyfnodau heriol. 

“Mae gen i ddigon ar fy meddwl i dynnu oddi ar y dialysis. 

“Dwi ‘di bod yn mynd i’r Oval ers tua 1983, a mae’r clwb yn meddwl y byd i fi.”

Image
Paul Evans

'Profi'

Wrth siarad ar raglen ddogfen Cofis yn Ewrop gan Sgorio, dywedodd Mr Evans ei fod yn ddiolchgar ei fod yn Gadeirydd y clwb am fod hynny'n ei orfodi i ddyfalbarhau. 

“Fedra’i ddim gadael rhywbeth fel dialysis sbwylio’n mywyd. 

“Dwi’m yn siŵr iawn sut fyswn i os fysa’r clwb ddim gen i i weithio ac i pusho fy hun.” 

Gan fod yn rhaid i Mr Evans gael triniaethau dialysis yn rheolaidd, dyw e ddim yn gallu teithio dramor. 

Ond wedi i glwb pêl-droed Caernarfon lwyddo i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes yng Nghynghrair Cenhedloedd Europa UEFA, fe gafodd Mr Evans ganiatâd arbennig i fynd ar daith dridiau er mwyn eu cefnogi. 

“Dwi ishio profi i fi fy hun – profi bod fi’n gallu byw bywyd prysur, da, sy’n meddwl rhywbeth i mi ac i fy nheulu,” meddai.  

Bydd modd gwylio cyfres Cofis yn Ewrop ar gyfrif Youtube Sgorio. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.