Cynllun i greu Parc Cenedlaethol newydd yng ngogledd Cymru yn hollti barn
Mae cynlluniau i greu Parc Cenedlaethol a fyddai'n ymestyn o ogledd ddwyrain Cymru hyd at ogledd sir Powys yn hollti barn.
Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad hyd at 10 wythnos yn cael ei gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Fe fyddai'r parc newydd yn cynnwys ardal Tirlun Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn ymestyn i lawr heibio Llyn Efyrrnwy hyd at Ddyffryn Banw.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yng Nghyngor Sir Powys, Elwyn Vaughan, wrth Newyddion S4C y byddai'r cynllun yn cynyddu'r pwysau sydd eisoes ar wasanaethau a busnesau yn yr ardal.
"Y pryderon ydy bod o’n creu pwysau ychwanegol mewn llefydd penodol fel Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanwddyn sydd eisoes yn cael hi’n anodd ymdopi efo pwysau nifer yr ymwelwyr o bryd i’w gilydd," meddai.
"Ac mae hynny wedi yn arwain at broblemau trafnidiaeth, yn amharu ar fywydau trigolion lleol ac wrth gwrs canlyniad parc cenedlaethol yw mwy o bwysau efo tai haf, Air BnB’s ac yn y blaen.
"Mae hefyd rhaid cofio bod yr ardal yma, gogledd sir Drefaldwyn ac yn y blaen yn agos iawn iawn i Manceinion, i ganolbarth Lloegr ac yn y blaen, ac felly mae’r pwysau yna yn dipyn fwy dwys bydden i’n tybied na fyddai i Eryri hyd yn oed. Mae e mor agos a hwylus i bobl dod."
Mae'r elusen Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol yn flaenllaw wrth geisio sicrhau bod y cynllun i adeiladu pedwerydd Parc Cenedlaethol Cymru yn cael ei wireddu.
Yn ôl Uwch Swyddog Polisi a Phrosiectau'r elusen, Gareth Ludkin dyw statws Parc Cenedlaethol ddim o reidrwydd yn golygu mwy o ymwelwyr.
“Dwi’n deall pryderon pobl, does dim parc cenedlaethol newydd wedi bod yng Nghymru ers 67 o flynyddoedd felly mae llawer o ansicrwydd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Pe bai’r Wyddfa ac Eryri ddim yn Barc Cenedlaethol, byddai pobl dal eisiau dringo’r mynydd uchaf yng Nghymru. Ond mae statws Parc Cenedlaethol yn golygu eu bod nhw’n gallu creu strategaethau ymwelwyr o gwmpas hynny ac yn gallu rheoli nifer yr ymwelwyr.
“Dyw rhai Parciau Cenedlaethol ddim yn derbyn nifer sylweddol o ymwelwyr, felly dyw’r statws ddim yn golygu y bydd mewnlifiad enfawr o bobl.
"Mae Moel Famau eisoes yn lle poblogaidd ac mae tîm y tirlun cenedlaethol yn gallu rheoli’r pwysau i ryw raddau."
'Pobl yn cadw draw'
Un sydd yn anghytuno â hynny yw perchennog busnes yn Llanrhaeadr ym Mochnant, ym Mhowys.
Ers 2020 mae Izzy Hosking wedi rhedeg siop cigydd yn y pentref sydd â phoblogaeth o lai na 2,000.
Er ei bod hi'n gweld manteision wrth i dwristiaid aros yn yr ardal am bythefnos neu'n hirach, y rhai sydd yn ymweld am y diwrnod yn unig sydd yn achosi problemau.
"Y sefyllfa yn y pentref yw ein bod ni yn stryglo gyda’r nifer sy’n dod, eto'r rhai sy’n dod am y diwrnod, y rhai sydd yn dod o drefi a dinasoedd mawr.
"Mae hynny yn tueddu i achosi llawer o dagfeydd yn y pentref ei hun, problemau parcio a phethau cyffredinol mae pentref bach ddim yn gallu ymdopi â nhw ac mae pobl leol yn cadw draw.
“Ar y cyfan, mae twristiaeth yn dda i fusnes, ond y budd i ni yw’r rhai sydd yn aros am y penwythnos neu wythnos gyfan ac yn defnyddio busnesau lleol, gwasanaethau a siopau lleol.
"Dwi’n meddwl y pryder yw bod twristiaid yn dod am y diwrnod ac rydym yn gweld bod nhw ddim y cyfrannu i’r economi leol, felly does dim buddiannau."
'Angen y buses'
Mae gwariant economaidd o ganlyniad i dwristiaeth hefyd yn cael effaith sylweddol ar yr economi, meddai Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol.
Yn ôl un cwmni ymgynghori, mae 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn yn gwario tua £1 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau ym Mharciau Cenedlaethol Cymru.
Un sydd yn gweld budd economaidd y diwydiant ymwelwyr yw perchennog yr Aqueduct Inn ger Froncysyllte, sydd yn ddibynnol ar dwristiaid ym misoedd yr haf.
Hebddynt mae Mick Edwards yn dweud y byddai'n rhaid iddo gau'n barhaol.
"Yn y gaeaf mae e mor mor dawel. Ond yn y gwanwyn a’r haf pan mae’r tywydd yn braf mae pobl yn dod yma achos mae’n lleoliad neis ac yn rhad.
“Rydym bob tro yn poeni am orfod cau’n barhaol, mae’n anodd.
“Y realiti yw bod yr ardal yma wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd ac mae pobl wedi dod i’w weld o wledydd ar draws y byd.
"Dydw i ddim o reidrwydd yn meddwl bydd statws Parc Cenedlaethol yn golygu bod mwy neu lai o bobl yn dod yma, ond 'da ni angen y busnes."
Fe fyddai Parc Cenedlaethol newydd yn costio tua £6 miliwn y flwyddyn i'w gynnal, ac mae disgwyl i Gyngor Sir Powys gyfrannu 25% o hynny, meddai Elwyn Vaughan.
Mewn cyfnod lle mae angen i'r cyngor wneud toriadau o dua £50 miliwn, mae'r cynghorydd yn dadlau nad yw'n gwneud synnwyr i ariannu Parc Cenedlaethol.
"Mae hyn yn digwydd mewn adeg pan mae cyngor sir dros y flwyddyn nesaf yn gorfod wynebu toriad o £50 miliwn eisoes. Ma’r holl gysyniad yn hollol anghynaladwy.
"Mae statws a label Parc Cenedlaethol yn creu rhyw hyd a lledrith, mae’n creu rhamant a delwedd arbennig o lle.
"A’r peryg ydi mai dyna sy’n arwain pethau yn hytrach na realiti ar lawr gwlad. Mae isho chwalu hynny a sicrhau mae ein cymunedau sy’n dod gyntaf, nid buddiannau pobl eraill."
Dywedodd Gareth Ludkin o Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol mai buddiannau'r gymuned sydd angen bod wrth wraidd y penderfyniad i gymeradwyo'r cynllun ai peidio.
“Dwi’n meddwl bod galluogi pobl i weld y ddwy ochr yn bwysig."
Yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar 16 Rhagfyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gofyn i CNC "fwrw ymlaen â rhaglen sy’n cynnwys asesiad manwl, ystyriaeth o’r dystiolaeth, ymgysylltu ac ymgynghori."
Dywedodd Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen yn nhîm Rhaglen Tirweddau Dynodedig CNC bod angen i bryderon a buddiannau gael eu trafod yn ofalus iawn cyn i unrhyw benderfyniad cael ei wneud.
"Er bod gennym weithdrefn statudol i’w dilyn, rydym eisiau sicrhau fod hon yn broses gynhwysol a bod pobl yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion.
"Os caiff Parc Cenedlaethol newydd ei sefydlu, yna mae’n rhaid iddo allu rheoli’r risgiau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn gwella byd natur, pobl a chymunedau.”