Pedair o’r 10 cymuned fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn yr un dref
Mae adroddiad newydd i amddifadedd (deprivation) yn dangos bod pedair o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u lleoli mewn un tref, sef Y Rhyl.
Yn ôl yr adroddiad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 a gafodd ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru ddydd Iau, mae lefelau tlodi yn y wlad yn debyg i’r lefelau a gofnodwyd yn yr adroddiad yn 2019.
Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd yn dadansoddi amddifadedd mewn 1,917 o ardaloedd yng Nghymru, ac yn ystyried ffactorau fel lefelau incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol ac amgylchedd yr ardaloedd.
Mae’r adroddiad yn dangos fod pocedi cymharol uchel o amddifadedd yn ninasoedd a chymoedd de Cymru, rhai trefi arfordirol, a rhai trefi yn y gogledd-ddwyrain.
Mae pump o’r 10 ardal a oedd ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl MALlC 2019 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig yn 2025.
Mae pedair o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yn y wlad wedi’u lleoli yn Y Rhyl, yn Sir Ddinbych. Yn 2019 roedd tair o gymunedau’r dref ymhlith y 10 uchaf.
Ardal Gorllewin Y Rhyl 2, sydd wedi’i lleoli o amgylch y Stryd Fawr, yw ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, fel yn adroddiad MALlC 2019.
Mae’r data yn dangos fod 21 o'r 22 awdurdodau lleol yn cynnwys o leiaf un o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae 20% o’r ardaloedd o fewn y 10% mwyaf difreintiedig wedi’u lleoli ym Mlaenau Gwent, gyda 18% yng Nghasnewydd.
Sir Fynwy yw’r unig sir sydd ddim ag ardal o fewn y categori mwyaf difreintiedig, tra mai dim ond un ardal sydd ym Mhowys a Cheredigion.
Sir Fynwy oedd hefyd yr awdurdod lleol â’r crynodiad isaf o ardaloedd o fewn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sef 19%, yna Powys (29%) a Sir y Fflint (29%).
‘Mwy na thlodi’
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai pwrpas yr adroddiad MALlC yw “nodi'r ardaloedd sydd â'r dwysedd uchaf o wahanol fathau o amddifadedd…...i lywio polisïau, a dyrannu adnoddau a gwasanaethau i ardaloedd.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS: “Mae amddifadedd yn fwy na thlodi yn unig. Gall hefyd olygu bod llai o adnoddau a chyfleoedd nag yr ydym yn ei ddisgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd neu addysg.
“Nid yw'r her o dorri cylch tlodi yn un y gallwn ei datrys dros nos.
“Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl opsiynau sydd wedi'u datganoli er mwyn mynd i'r afael â thlodi, ond mae llawer o'r opsiynau mwyaf pwerus — yn enwedig o ran lles, trethiant, a pholisi cyflog — yn parhau i fod yn bwerau i Lywodraeth y DU.
“Rydym wedi buddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd ledled Cymru drwy raglenni sy'n lleddfu pwysau ariannol, sy'n helpu i sicrhau cymaint o incwm â phosibl a gwneud y mwyaf ohono, ac sy'n helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi.”
'Croesawu' dileu'r Cap Dau Blentyn
Mae Ms Hutt hefyd wedi croesawu penderfyniad y Canghellor Rachel Reeves i ddileu’r Cap Dau Blentyn wrth gyhoeddi’r Gyllideb ddydd Mercher.
Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd teuluoedd sydd â mwy na dau o blant yn gallu hawlio cymorthdaliadau Credyd Cynhwysol.
“Rydym yn falch bod y Canghellor wedi gwrando ar ein galwad ynghylch diwygio lles i ddileu’r Cap Dau Blentyn, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â phroblem tlodi plant,” meddai Ms Hutt.
“Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y cyhoeddiad yn rhyddhad i 69,000 o blant yng Nghymru sydd wedi methu cael cymorth ariannol drwy system fudd-daliadau'r DU.”