Aberteifi: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth menyw 21 oed

Corinna Baker

Mae dyn 29 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wedi i gorff menyw 21 oed gael ei ddarganfod yn Aberteifi yng Ngheredigion. 

Fe gafodd corff Corinna Baker ei ddarganfod yn ardal Pwll y Rhwyd yn y dref ar 15 Tachwedd. 

Fe gafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Vicky Oliver: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Corinna yn ystod y cyfnod ofnadwy yma, ac mae ein swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi wrth i'n hymholiadau ddatblygu. 

"Hoffwn annog unrhyw un â gwybodaeth, neu oedd yn Iard Gychod Pwll y Rhwyd o tua 21:00 ar ddydd Iau 13 Tachwedd i gysylltu."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25*937027. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.