Arestio dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad synagog Manceinion
Mae dyn wedi cael ei arestio ym Maes Awyr Manceinion mewn cysylltiad ag ymosodiad mewn synagog yn y ddinas.
Dywedodd Heddlu Manceinion bod dyn 31 oed wedi cael ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi ac ysgogi gweithredoedd terfysgol.
Ef yw'r seithfed person i gael ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad ger synagog Heaton Park yn ardal Crumpsall ym Manceinion ar 2 Hydref.
Roedd Jihad Al-Shamie wedi gyrru ei gar i mewn i gatiau'r synagog ar ddiwrnod Yom Kippur, sef diwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn i Iddewon, ac yna dechrau ymosod â chyllell. Fe wnaeth heddlu arfog saethu'r ymosodwr 35 oed yn farw.
Cafodd yr addolwyr Melvin Cravitz, 66, ac Adrian Daulby, 53, eu lladd yn ystod y digwyddiad.
Clywodd Llys Crwner Manceinion fod Mr Cravitz wedi marw o ganlyniad i nifer o anafiadau trywanu a gafodd eu hachosi gan Al-Shamie.
Bu farw Mr Daulby o anaf gafodd ei achosi gan ergyd o wn swyddog arfog yr heddlu a oedd yn ceisio atal Al-Shamie rhag mynd i mewn i'r synagog.
'Erchyll'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rob Potts: "Tua hanner dydd heddiw, arestiodd swyddogion o Blismona Gwrthderfysgaeth Gogledd Orllewin ddyn 31 oed mewn cysylltiad â’r ymosodiad terfysgol erchyll a ddigwyddodd yn Synagog Heaton Park.
"Cafodd y dyn ei arestio ym Maes Awyr Manceinion ar ôl cyrraedd ar awyren ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
"Mae anwyliaid Mr Cravitz a Mr Daulby, yn ogystal â’r rhai a anafwyd yn ddifrifol yn yr ymosodiad, wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiad yma."
Ychwanegodd fod yr heddlu yn parhau i ymchwilio a'u bod yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Mae dyn 30 oed a gafodd ei arestio ar 9 Hydref ar amheuaeth o fethu â datgelu gwybodaeth yn groes i Adran 38B o Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn parhau ar fechnïaeth.