Cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwrthod honiad fod eu gwasanaethau gofal brys wedi torri

Newyddion S4C
Dyfed Edwards

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwrthod honiad fod gwasanaethau gofal brys yn y gogledd “wedi torri” er yn cydnabod bod o mewn stad o “argyfwng”. 

Yn ôl Dyfed Edwards mae’n rhaid i “rhywbeth o fewn y gwasanaeth iechyd newid ar frys” er mwyn ateb yr heriau tymor byr a thymor hir sy'n wynebu'r bwrdd iechyd. 

Daw ei sylwadau wythnos yn unig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bwriad i ddarparu mwy o gefnogaeth i’r bwrdd iechyd, sydd eisoes dan fesurau arbennig. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd “leihau amseroedd aros mewn unedau brys” gan fuddsoddi £200m eleni ar draws Cymru. 

Mae adroddiad cynnydd diweddar i sefyllfa’r bwrdd iechyd yn dangos bod y gwasanaeth yn y gogledd yn wynebu heriau sylweddol ar draws nifer o feysydd er yn cydnabod bod gwelliannau wedi bod mewn arweinyddiaeth. 

'Argyfwng'

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau â’r amseroedd aros hiraf yng Nghymru ac roedd 5,399 o achosion yn dangos fod cleifion yn aros mwy na dwy flynedd am ofal wedi’w gynllunio mewn 15 o feysydd arbennig. 

Gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles yn disgrifio’r sefyllfa fel un “annerbyniol”, fe ddywedodd Cadeirydd y bwrdd, Dyfed Edwards ei fod yn derbyn hynny. 

“Dwi ‘di dweud yn gyhoeddus bod ni’n wynebu argyfwng oherwydd y niferoedd a bod ein staff ‘dan bwysau afresymol a bod pobl yn wynebu disgwyl yn llawer rhy hir ‘dan amodau annerbyniol," meddai.

“Mae’n rhaid i rhywbeth newid... Dwi’n gobeithio rŵan bod ganddom ni gynllun yn barod i'w weithredu gyda'r cymorth ychwanegol yna."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu darparu “capasiti ac arbenigedd ychwanegol ar lefel uchel o fewn y bwrdd iechyd," gyda chynlluniau yn canolbwyntio ar leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau sydd wedi eu cynllunio. 

Image
Ysbyty Gwynedd
Ysbyty Gwynedd ym Mangor

Symud o ysbytai i’r gymuned

Tra’n derbyn fod y sefyllfa'n heriol, mae Dyfed Edwards yn dweud bod yn rhaid hefyd edrych ar ffyrdd newydd o ddiogelu’r gwasanaeth iechyd a dechrau ystyried symud adnoddau o’r ysbytai i’r gymuned. 

“Yn ymarferol mae’n rhaid i bawb dderbyn os taw dyna lle mae’r broblem, a dwi’n cytuno, yna mae’n rhaid symud y pwyslais o’r ysbytai i ofal yn y gymuned gan gynnwys bod angen mwy o adnoddau dynol ac ariannol," meddai.

“Dyna’r drafodaeth sydd angen i ni gael, ac mae ‘na oblygiadau i hynny.

“Mae’n rhaid ni geisio gwneud y ddau beth... yr hyn sy’n gyrru ni yn y gwasanaeth iechyd ydi materion tymor byr.

“Mae’n rhaid i rhywun fod yn ddigon dewr i ddweud ‘da ni am gael gweledigaeth 10 mlynedd a chytuno ar be sydd angen ei wneud."

'Niferoedd yn llorio'

Yn ôl Mr Edwards mae’n amhosib gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd y pwysau sy’n wynebu’r gwasanaeth gan restrau aros hir. 

“Da ni’n cael ein llorio gan y niferoedd sy’n dod mewn i’r system," meddai.

“Mae’n rhaid cymryd cam yn ôl a dweud – pa fath o wasanaeth iechyd a lles ‘dan ni angen 10 mlynedd i rŵan.

“Mae’n rhaid bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd a gwahanol."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio fod y gefnogaeth newydd gan y llywodraeth yn rhoi'r sgiliau ac adnoddau i bobl o fewn y bwrdd iechyd, ac felly'n dysgu sut i fynd i’r afael â’r heriau. 

“Tymor byr, ma’n rhaid i rhywbeth newid ar frys, ac yn y tymor hir mae’n rhaid cael arweiniad ac ateblorwydd ar bob lefel o’r bwrdd iechyd," meddai.

Wrth ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi “gosod disgwyliadau clir i bob bwrdd iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i leihau nifer y cleifion sy'n aros yn hir mewn adrannau brys, a chwblhau trosgwylddiadau cleifion o fewn 45 munud.

“Rydym wedi buddsoddi mwy na £200m eleni ar draws Cymru i helpu gefnogi pobl yn eu cymunedau ac osgoi cleifion yn gorfod mynd i’r ysbyty. 

“Rydym wedi cyhoeddi mesurau pellach i gefnogi’r bwrdd iechyd ac mae rheini yn angenrheidiol i fynd i’r afael a’r materion hyn ac i sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal y mae nhw’n haeddu”.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.