Carcharu adeiladwyr am dwyllo cwpl oedrannus o £33,000 mewn mis
Mae adeiladwyr wedi’u carcharu am dwyllo cwpl oedrannus o dros £33,000 mewn cyfnod o fis.
Roedd Dave McEvoy, 51 oed, o ardal Sblot o Gaerdydd, a Joseph Ellis, 21 oed, o Basildon yn Essex, wedi cytuno i “lanhau’r to” i un o’r dioddefwyr, oedd yn ddyn 83 oed.
Ar ôl cytuno i wneud y gwaith am £1,000, fe wnaethon nhw ddychwelyd i’r cartref yn Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, dro ar ôl tro gan ofyn am ragor o arian.
Fe ddywedodd y ddau eu bod yn parhau i ddod o hyd i “bethau o’i le” gyda’r to, ac yn y pen draw fe wnaethon nhw dynnu hanner ohono a’i adael heb osod y to yn ôl.
Fe gafodd y dyn oedrannus ei dwyllo o £33,200 ym mis Gorffennaf 2024 yn unig, ac fe wnaeth y ddau adeiladwr geisio argyhoeddi’r cwpl i ail-forgeisio’r tŷ er mwyn rhyddhau rhagor o arian.
Awgrymodd adolygiad o’r gwaith ar y byngalo mai dim ond tua £700-800 y dylai’r gwaith fod wedi’i gostio.
Plediodd y ddau ddyn yn euog i dwyll trwy gamgynrychiolaeth ac maent wedi cael eu dedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rachel Thomas nad oedd “unrhyw lefel na fyddai’r troseddwyr wedi suddo iddi”.
“Mae targedu cwpl oedrannus a bregus, nid unwaith yn unig, ond dro ar ôl tro nes iddynt ildio eu cynilion oes yn llwyr, yn dangos bod gan y ddau ddyn ddim parch o gwbl.
“Cyn belled â’u bod yn gwneud mwy o arian, nid oeddent yn poeni dim am y difrod yr oeddent yn ei wneud i fywydau’r dioddefwyr.”