Newyddion S4C

'Poen byth yn diflannu' i ddyn o Wrecsam 11 mlynedd ers i'w frawd gael ei drywanu i farwolaeth

14/11/2024
Danny Maddocks a'i deulu

Mae brawd dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Wrecsam dros 10 mlynedd yn dweud bod ei farwolaeth "dal yn ddinistriol i'r teulu cyfan."

Bu farw Craig Maddocks ar ôl iddo gael ei ymosod arno yn nhafarn y Cambrian Vaults ym mis Mehefin 2013.

Cafwyd Francesco John Prevet yn euog o’i lofruddio ac fe gafodd ei ddedfrydu i 23 mlynedd yn y carchar.

Dywedodd Danny Maddocks bod pethau ddim yn haws 11 mlynedd ers marwolaeth ei frawd, oedd yn 34 oed.

“Mae colli fy mrawd yn y fath fodd wedi bod yn ddinistriol i’r teulu cyfan.

“Dio’m yn mynd yn haws – mae pobl yn dweud y dylai ond dydy o ddim yn wir, ac er iddo ddigwydd 11 mlynedd yn ôl nid ydy’r boen byth yn diflannu.

“Mae yna ddyddiau da a dyddiau drwg. Weithiau fyddai’n gwylio’r newyddion ac yn clywed am drywanu arall ac mae’r sbardun hwnnw yno.”

'Dim da o gario cyllyll'

Ers marwolaeth Craig, mae Danny wedi ymgyrchu llawer er mwyn ceisio mynd i’r afael â throseddau cyllyll yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae wedi gweithio’n agos hefo’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, gan ymweld ag ysgolion, clybiau bocsio a champfeydd er mwyn cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth cyllyll i lawer o bobl ifanc yn ardal Wrecsam. 

“Dwi’n hunangyflogedig, ond dwi bob amser yn barod i ymweld â grwpiau er mwyn ceisio trosglwyddo’r neges na all unrhyw dda fyth ddod o gario cyllell.

“Os mae pobl ifanc yn poeni neu’n ofni siarad, dwi’n hapus i siarad efo nhw. Dydw i ddim eisiau i deulu arall ddioddef fel fi, dim ond eisiau atal pethau fel hyn rhag digwydd.

“Tydi llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod cario cyllell yn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o fynd i berygl difrifol. Gall cyllell waethygu pethau tu hwnt i’ch rheolaeth chi, a gwneud sefyllfa wael yn waeth o lawer.

“Fel teulu, ‘dan ni eisiau gweld newid, ac os oes angen parhau rhannu ein profiad ni a galw ar bobl ifanc godi llais, yna dyna fyddwn ni’n ei wneud.”

'Hynod ddifrifol'

I gyd-fynd â Sceptre – menter genedlaethol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am droseddau cyllyll, mae Prif Arolygydd Siobhan Edwards o Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod cario cyllyll yn broblem mae'r llu yn ei gymryd o ddifrif.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un. 

“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd yn gysylltiedig. Mae hon yn broblem ‘da ni’n ei chymryd hi’n hynod ddifrifol.

“Hoffwn i ddiolch i Danny am ei gefnogaeth barhaus a’i gymeradwyo am ei waith gwirfoddol yn ein cymunedau ni er mwyn ceisio atal dioddefwyr pellach.

"Tra mae achosion a chymhellwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.