Sajid Javid yn profi'n bositif am Covid-19

NS4C

Mae Gweinidog Iechyd San Steffan, Sajid Javid wedi profi'n bositif am Covid-19. 

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, fe ddywedodd Mr Javid ei fod wedi profi'n bositif ar fore dydd Sadwrn ac mae'r symptomau yn rhai "ysgafn". 

Ychwanegodd ei fod wedi derbyn dau ddos o'r frechlyn.