Newyddion S4C

Galwad am gymorth er mwyn osgoi teithio dramor am lawdrinaeth colli pwysau

13/11/2024

Galwad am gymorth er mwyn osgoi teithio dramor am lawdrinaeth colli pwysau

Dydy trafod pwysau byth yn hawdd.
 
Mae'n emosiynol a phersonol ond wedi degawdau o geisio colli pwysau penderfynodd Bethan Antur o Lanuwchllyn dalu'n breifat am bypass gastric.
 
Ers yn 15 oed, dw i'n teimlo bod fi di bod ar un ddeiet ar ol y llall.
 
Dach chi'n colli pwysau, a rhoi pwysau nôl 'mlaen wedyn trio deiet gwahanol a'r pwysau'n dod i ffwrdd eto wedyn os dach chi'm yn cadw i fyny efo fo mae'r pwysau'n dod nôl.
 
Dw i'n typical yo-yo dieter dros fy mywyd i gyd.
 
Oedd fy hunanhyder yn dirywio ac roedd hi'n anoddach gwneud pethe.
 
Ro'n i'n gwrthod gwneud rhai pethe a gwrthod mynd i lefydd oherwydd pryder a theimlo'n anghyfforddus efo fi fy hun.
 
Dach chi wedi cael y lawdriniaeth rŵan.
 
Faint o wahaniaeth mae'n gwneud?
 
Alla i'm dechra deud gymaint o wahaniaeth mae o 'di neud.
 
Yn gorfforol, dw i'm ar unrhyw fath o dabledi.
 
Yn feddyliol, mae'r effaith fwyaf cadarnhaol fyth.
 
Dw i 'di dod yn nôl yn fi fy hun.
 
Dydy pobl ddim yn deall problem efo bwyd, mae o fatha addiction.
 
Fel oedd y llawfeddyg yn deud, mae o'n afiechyd.
 
Ar ol i'w meddyg teulu rybuddio y gallai hi aros am flynyddoedd talu yn breifat wnaeth Bethan.
 
A hithau am weld y gwasanaeth yn ysgwyddo mwy o'r baich i leddfu pwysau.
 
Daw galw Bethan yn dilyn cwest brynhawn ddoe i farwolaeth mam i ddau o Fangor fu farw wrth dderbyn llawdriniaeth i leihau maint ei stumog yn Nhwrci.
 
Ydy, mae'n benderfyniad anodd ac yn un roedd rhaid i Iestyn Owen ei wneud hefyd.
 
Ar ôl colli 11 stôn aeth i Dwrci i gael triniaeth i leihau y croen ar ei fol ar gost o £5,000 yn hytrach na £15,000 yma, neu aros am flynyddoedd i gael triniaeth ar y gwasanaeth iechyd.
 
'Swn i 'di licio neud o'n agosach i adra.
 
Mae'n llawdriniaeth boenus, mewn gwlad ddieithr.
 
Oedd mam yn ffonio bob munud yn crio ond eto o'n i'n teimlo do'n i'm isio bod yn fwrdwn ar y gwasanaeth iechyd.
 
I fi, 'swn i'n licio 'sa 'na fwy o gymorth allan yna i bobl gael pethe'n breifat yn y wlad yma ond fyny i fi oedd o yn diwedd.
 
Be dach chi am weld gan y llywodraeth?
 
Bod yn fwy proactive.
 
Os ydach chi'n rhoi llawdriniaethau ataliol fel hyn dach chi'n mynd i arbed i'r gwasanaeth iechyd nes ymlaen.
 
Mae angen mwy o ddealltwriaeth a chydymdeimlad o beth sy'n achosi gordewdra achos dydy o ddim yn syml o gwbl.
 
Yn ôl Llywodraeth Cymru dim ond ar gyfer pobl a gordewdra difrifol y bydd llawdriniaethau colli pwysau yn cael eu hystyried.
 
Mae cymorth a thriniaethau eraill ar gael ac maen nhw'n annog unrhyw un sy'n ystyried gofal iechyd preifat i wneud ymchwil trylwyr cyn cael triniaeth.
 
Isio gweld newid agweddau a thriniaethau mae Bethan gan obeithio bydd cymorth tebyg ar gael i eraill yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.