Newyddion S4C

Prinder arian yn bygwth dyfodol clwb ieuenctid

13/11/2024

Prinder arian yn bygwth dyfodol clwb ieuenctid

Fi'n lico dod fan hyn i weld ffrindiau mas o ysgol.
 
Ni'n chwarae, mae'n lots of fun.
 
Canolfan sy'n hwb i blant a phobl ifanc o bob oed a'r galw yma yn ardal Dyffryn Aman yn amlwg.
 
Ti'n gallu cwrdd â ffrindie newydd.
 
Mae pobl fan hyn fel teulu fi, ti'n gallu cael heard.
 
Ni'n neud dawnsio a DJing, mae'n hwyl a sbri.
 
Youth clwb hwn ydy'r only youth club yn GCG.
 
Pryd ni'n cael disgos mae pawb yn mynd.
 
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan elusennau a sefydliadau fel Plant Mewn Angen
ond mae arian yn dynn.
 
Os nag y'n ni'n dod o hyd i ryw gyllid erbyn mis Chwefror byddwn ni mewn trwbl.
 
Bydd posibilrwydd bod ni'n cau.
 
Mae croeso i bawb yma a dros 250 o blant wedi cofrestru.
 
Mae'r ffaith bod nhw'n dod fan hyn yn golygu bod 'da nhw rywun i siarad gyda, a bod 'da nhw rhywle saff lle maen nhw'n bod yn nhw eu hunain heb gael eu barnu.
 
Fi'n becso tasen ni ddim yma lle bydden nhw.
 
Yn ôl arolwg diweddar mae nifer o rieni yn ei chael hi'n anodd fforddio gweithgareddau allgyrsiol i'w plant gyda un ymhob pump yn dweud nad oedd modd i'w plant gymryd rhan.
 
Un ymhob saith ddim yn gallu mynd i wersi cerddoriaeth, dawns, drama ac un ymhob 10 yn methu ymuno a chlybiau ieuenctid.
 
Mae tlodi yn broblem enfawr yng Nghymru.
 
Mae un ymhob tri plentyn yn byw mewn tlodi plant ac mae'r galw ar wasanaethau sydd am ddim yn amlwg yn mynd i gynyddu.
 
Heb arian cyhoeddus yn mynd mewn i gefnogi'r gwasanaethau yna mae 'na gylch ofnadwy bod dim cymorth ar gael ar gyfer y plant sydd ei angen fwyaf.
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mynd i'r afael â thlodi plant yn flaenoriaeth iddyn nhw a bod eu strategaeth tlodi plant yn canolbwyntio ar fuddiannau pobl ifanc gan gynnwys mynediad i weithgareddau allgyrsiol.
 
Er gwaith caled y staff a'r gwirfoddolwyr mae'r pryderon yn parhau.
 
Mae angen cyllid arnon ni yn enwedig ar glybiau bach a gwledig.
 
Does dim byd arall yma.
 
Heb ni, sa i'n gwybod be fyddai'n digwydd i rai o'r rhain.
 
Fi wir ddim yn.
 
Gyda chynnydd mewn costau mae clybiau fel yr un yma yn teimlo'r pwysau, ond eu gwerth i bobl ifanc yn amhrisiadwy.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.