Newyddion S4C

Perygl y gallai cartrefi gofal gau yn dilyn newidiadau i yswiriant gwladol

Newyddion S4C

Perygl y gallai cartrefi gofal gau yn dilyn newidiadau i yswiriant gwladol

Gallai cartrefi gofal gau a meddygfeydd roi cytundebau yn ôl i fyrddau iechyd os yw Llywodraeth Prydain yn parhau â’u cynllun i godi treth yswiriant gwladol i gyflogwyr.

Fe gafodd y gyfradd i gyflogwyr ei chodi i 15% yn ystod y gyllideb fis diwethaf, ac er na fydd yn effeithio ar y gwasanaeth iechyd, mae meddygfeydd, hosbisau a chartrefi gofal yn gorfod talu.

Mae undebau rŵan yn rhybuddio y bydd ‘na lai o wasanaethau o’r herwydd gan alw ar Lywodraeth Prydain i wneud tro pedol.

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, roedd newid cyfraniadau i’r dreth yn “benderfyniad anodd” ond angenrheidiol er mwyn ail osod sylfeini.

Image
Bryn Sei
Cartref Gofal Bryn Seiont

Mae Cartref Gofal Bryn Seiont yng Nghaernarfon yn gartref i 107 o breswylwyr a dros 240 o staff- un o’r cartrefi mwyaf yn y gogledd.

Mae’r cartref yn amcangyfrif y gallai’r cynnydd mewn treth yswiriant olygu cost o £75,000 y flwyddyn ac felly mae’r cartref yn poeni- o le ddaw y cyllid?

“Ma’n £75,000 i ni y flwyddyn ond i’r cwmni gyd (sydd a chartrefi eraill), da chi’n son am dros £700,000”, meddai rheolwraig y cartref Sandra Evans.

“Sut mae cartrefi bach yn mynd i gario mlaen”?

“Mae’n mynd i olygu y bydd cartrefi yn cau ac mae hynny’n mynd i gael effaith mawr ar yr ysbytai.. mae rheini yn llawn dop ar y funud felly lle mae pobl yn mynd i fyw”?

Mae’r gwasanaeth iechyd fel cyflogwr wedi eu heithrio o dalu’r cynnydd yn yswiriant gwladol ond dadlau mae Llywodraeth Prydain bod meddygfeydd, hosbisau a chartrefi gofal yn gwmnïau preifat ac y dyla nhw dalu.

Mae hynny hefyd yn wir am elusennau a’r trydydd sector.

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA yn galw am newid meddwl, gan ddweud eu bod nhw’n amcangyfrif y bydd yn golygu cynnydd o £20,000 mewn costau i bob meddygfa.

Image
Dr Phil White
Dr Phil White

“Yr unig opsiwn fydd gyno ni dan amgylchiadau fel hyn ydi neud colled”, meddai Dr Phil White sy’n lefarydd ar ran yr undeb.

“A’r unig opsiwn wedyn fydd rhoi’r contract yn ôl i’r byrddau iechyd, ac mae wedi digwydd yn aml dros Gymru ac yn arbennig yng ngogledd Cymru”.

Mae’r BMA a Fforwm Gofal Cymru yn rhybuddio bod ergyd drifflig i’r sector gyda chynnydd yn y dreth yswiriant gwladol ar y gweill ond hefyd cynnydd isafswm cyflog a hefyd y phenderfyniad i ostwng trothwy mae yswiriant gwladol yn cael ei dalu ar gyflogau.

Yn ôl Sandra Evans o gartref Bryn Seiont mae’r newidiadau yn ergyd arall i’r sector wedi sawl blwyddyn heriol.

“Mae’n draining”, meddai.

“Mae bob dim yn mynd fyny, mae costau staff wedi mynd fyny ac yn teimlo bod o jest yn constant battle”.

Dweud mae Llywodraeth Prydain eu bod nhw wedi gwneud penderfyniadau anodd er mwyn trwsio’r sylfeini ac i sicrhau bod cynnydd o £22bn i’r gwasanaeth iechyd ledled Prydain.

“Dyw’r cynnydd yn cyfraniadau treth ystyriant gwladol i gyflogwyr ddim yn dechrau ran Ebrill y flwyddyn nesa, ac mi fyddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion ar gyllid maes o law,” meddai llefarydd.

Ychwanegodd bod rhagor o gyllid sylweddol ar y gweill i Lywodraeth Cymru yn dilyn y gyllideb a bod maes iechyd "wedi’i ddatganoli”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.